Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadeirydd i gynnal Sioe Ffasiwn elusennol

Published: 25/09/2017

Bydd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Brian Lloyd a’i Gonsort, Mrs Jean Lloyd, yn cynnal sioe ffasiwn elusennol yng Nghlwb Cyn-Filwyr yr Wyddgrug a’r Ardal ar Ffordd Wrecsam, yr Wyddgrug ddydd Gwener, 27 Hydref 2017. Mae’r noson yn codi arian ar gyfer tair elusen y Cadeirydd - Claire House Children’s Hospice, Cymorth Canser Macmillan a Barnardos Cymru. Mae’r noson yn cael ei chefnogi gan Simmi Womenswear, Wyddgrug a fydd yn gwerthu dillad, bagiau, sgarffiau a gemwaith ar y noson. Mae’r noson yn cychwyn am 7pm ac mae’r tocynnau’n costio £3. Dywedodd y Cynghorydd Lloyd: “Hoffwn annog pawb i ddod draw ac ymuno â ni am noson llawn hwyl! Bydd hyn yn ffordd hwyliog iawn o gefnogi fy elusennau. I gael tocynnau, cysylltwch â mi neu Jean ar 07734 579898, Lesley neu Karen ar 01352 702151 neu Simmi Womenswear yn yr Wyddgrug.”