Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf

Published: 20/09/2017

Mae’r Gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf yn un o swyddogaethau pwysicaf y Cyngor a phob blwyddyn, rhwng mis Hydref a mis Ebrill, mae’n darparu gwasanaeth hanfodol i sicrhau mynediad diogel a dibynadwy i’r rhwydwaith ffyrdd. Er mwyn ymgymryd â’r ddyletswydd hon, mae cynlluniau wrth gefn wedi eu datblygu i ddeilio â digwyddiadau annisgwyl, fel tywydd gwael, yn brydlon ac yn effeithiol. Ddydd Mawrth, 19 Medi, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd y Cyngor yn ystyried adroddiad sy’n gofyn i’r Cabinet gymeradwyo Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf diwygiedig sy’n: · Diweddaru’r polisi presennol · Cadarnhau gofynion deddfwriaethol darparu gwasanaeth o’r fath · Cadarnhau’r dyraniad cyllidebol a’r gwir wariant wrth gydymffurfio â’r polisi presennol a darparu’r gwasanaeth yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y system bresennol yn cwrdd â’r risgiau yn ystod cyfnodau o dywydd gwael a’i bod hefyd yn effeithiol wrth ddefnyddio’r adnoddau angenrheidiol, yn ogystal â chyfyngu ar effaith yr amhariad ar ddefnyddwyr gwasanaeth a meysydd gwasanaeth eraill. Roedd rhai newidiadau i drefniadau gweithredu’r gwasanaeth yn angenrheidiol, gan gynnwys: · Fflyd graeanu newydd sbon ar gyfer tymor 2017/18, gyda meddalwedd Schmidt Autologic sy’n caniatáu i yrwyr ganolbwyntio’n llwyr ar y ffordd a sicrhau bod y swm cywir o halen yn cael ei wasgaru · Bydd gyrwyr gweithredol yn cael eu rhoi ar restr ddyletswydd i fod ar alwad drwy gydol y tymor i ymateb i amodau gaeafol; bydd timau ymateb ar alwad yr adran briffyrdd hefyd ar gael i gynorthwyo’r timau hyn os oes angen · Bydd swyddogion ar ddyletswydd drwy gydol y gaeaf i fonitro rhagolygon y tywydd ac i benderfynu ar y camau ataliol priodol Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu ymateb y sir i ddigwyddiadau tywydd gwael eraill, fel llifogydd a gwyntoedd cryfion, ac yn gofyn am gymeradwyaeth i’r Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod Rhanbarthol a fydd yn cael ei weithredu yn ystod cyfnodau o law trwm neu ddigwyddiadau llifogydd eraill. Meddai’r Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad: “Wrth baratoi’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf bu i ni ystyried amgylchiadau lleol a phryderon ynghylch y gwasanaeth a all olygu newid ein harferion gwaith. Bu i ni hefyd adolygu ein cadwyn gyflenwi bresennol, gan gynnwys cyflenwadau halen, i sicrhau bod o gyflenwadau i gefnogi’r gwasanaeth. “Er bod gennym ni gyllideb cynnal a chadw yn y gaeaf cyfyngedig ar gyfer rhedeg y gwasanaeth o ddydd i ddydd, os ydym ni’n profi cyfnodau hir o dywydd gwael bydd cyllid ac adnoddau pellach ar gael i helpu i gadwr rhwydwaith ffyrdd ar agor an cymunedau yn ddiogel.