Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol newydd yn agor ym mis Medi

Published: 11/07/2014

Wrth iddynt edrych ymlaen at symud i mewn i ysgol newydd sbon ym mis Medi, mae plant yn cofnodi hanes eu dwy ysgol yn Shotton ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol drwy osod arteffactau a chofarwyddion mewn capsiwl amser. Caiff y capsiwl amser ei gladdu ar safle ysgol gynradd newydd Ty Ffynnon sy’n werth £6.4m, a fydd yn cymryd lle Ysgol Iau Taliesein ac Ysgol Fabanod Shotton. Bydd yr adeilad unllawr newydd yn darparu lle i 270 o ddisgyblion cynradd a 30 o ddisgyblion meithrin ac mae wedi’i lunio gan staff Ymgynghoriaeth Eiddo a Dylunio Cyngor Sir y Fflint o fewn safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion yr 21ain ganrif. Mae ganddi naw o ystafelloedd dosbarth a dau ddosbarth adnoddau i blant ag anawsterau dysgu cymedrol, meithrinfa, neuadd, stiwdio, cegin a chyfleusterau cymunedol. Yn yr awyr agored ceir mannau chwarae a hamdden wedi’u tirlunio. Ariennir yr ysgol ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru ac mae’n cael ei hadeiladu gan gwmni Read Construction Holdings Ltd o Frymbo. Meddai’r Pennaeth Helen Hughes: Cyn bo hir byddwn yn symud i’n hysgol newydd ond roeddem am sicrhau fod atgofion o’r ddwy ysgol yn cael eu rhoi ar gof a chadw. Mae cwmni Read Construction wedi cydweithio’n agos â phlant y ddwy ysgol ac wedi ein cynnwys o’r cyfnodau cynnar. Yn y capsiwl amser bydd eitemau megis cyfnodolion wedi’u hysgrifennu gan y plant sy’n cofnodi eu hatgofion o’r hen ysgol, copïau o wasanaeth diolchgarwch diweddar a rhaglen cyngerdd a ffotograffau a lluniau’r plant.” Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg yng Nghyngor Sir y Fflint: “Mae’r ysgol newydd wedi’i hadeiladu i safon uchel er mwyn darparu cyfleusterau modern o’r radd flaenaf a’r cyfleoedd dysgu gorau i’n plant. Dymunwn y gorau i’r staff a’r disgyblion yn eu hamgylchedd newydd” Meddai’r Rheolwr Masnachol, John Prichard-Taylor o gwmni Read Construction Holdings Ltd,: “Mae wedi bod yn bleser o’r mwyaf cael gweithio gyda staff a disgyblion Ysgol Iau Taliesin ac Ysgol Fabanod Shotton. Rydym yn falch o’ch cyfraniad at ddarparu cyfleusterau ysgol o’r 21ain ganrif a fydd yn cefnogi addysg o’r radd flaenaf.”