Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Swyddfa Archwilio Cymru

Published: 22/09/2017

Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn i Gabinet Cyngor Sir Y Fflint dderbyn y Cynllun Gwella Blynyddol ar gyfer 2016/17. Dyma’r seithfed Adroddiad Gwella Blynyddol ar gyfer Sir y Fflint ac mae’n cadarnhau cynnydd parhaol Sir y Fflint fel Cyngor sy’n cael ei lywodraethun dda ac sy’n perfformio’n dda, gan nodi: “Mae’r Cyngor yn cwrdd ei ofynion statudol o safbwynt gwelliant parhaus. Mae absenoldeb unrhyw argymhellion newydd yn dangos fod gan y corff rheoleiddio hyder llwyr yn y Cyngor ai allu. Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru dri adolygiad yn y Cyngor, sef: · Asesiad Corfforaethol dilynol; · Adolygiad Llywodraethu Da; a · Effeithiolrwydd rhaglen arbedion effeithlonrwydd y Cyngor. Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi gwneud cynnydd cyffredinol da wrth gyflawni ei flaenoriaethau gwella ac yn dangos perfformiad cryf ar draws nifer o feysydd gwasanaeth. Gan groesawu’r adroddiad, dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r adroddiad diweddaraf gan archwilwyr allanol y Cyngor yn amlygu pa mor dda mae Cyngor Sir Y Fflint yn parhau i berfformio. Nid yw Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi unrhyw welliannau statudol newydd ac maent wedi argymell pedwar cynnig gwirfoddol ar gyfer gwella, ac yr ydym yn edrych yn fanwl ar y rheiny. Er y pwysau ariannol dwys, mae Sir y Fflint yn parhau i gyflawni ei flaenoriaethau: tai, gofal cymdeithasol, addysg a’r economi.” Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: “Maer adroddiad gan ein prif reoleiddiwr yn amlygu ein dull da o lywodraethu ac yn dangos fod Sir y Fflint yn gyngor syn cael ei redeg yn dda. Dylai hyder Swyddfa Archwilio Cymru ynom ni roi sicrwydd i’n cymunedau.