Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth

Published: 22/09/2017

Byd natur yw system cynnal bywyd y blaned, ac mae’n darparu ein bwyd, dwr, aer, deunyddiau adeiladu, meddyginiaethau an tirwedd. Bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth o fywyd ar y ddaear ac mae colli bioamrywiaeth yn parhau o ganlyniad uniongyrchol i effeithiau dynol, drwy golli cynefinoedd a diraddiad, gor ecsbloetio, llygredd, newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau estron goresgynnol. Mae Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint wedi ei lunio mewn ymateb ir dyletswyddau cynyddol o ran bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Llywodraeth Cymru, fframwaith newydd o ran deddfwriaeth sy’n torri tir newydd ac sy’n golygu fod rhaid i Awdurdodau Cyhoeddus geisio cynnal a chynyddu bioamrywiaeth cyn belled â’i fod yn gyson gyda chyflawni ei swyddogaethau’n briodol ac wrth wneud hynny hybu gwytnwch ecosystemau. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: Gellir ymdrin âr holl fygythiadau i fioamrywiaeth gan gynnwys gor ecsbloetio, colli cynefinoedd a rhywogaethau goresgynnol drwy fyw yn fwy cynaliadwy. Fel awdurdod lleol mae gennym ddyletswydd i weithredu cynaliadwyedd ac arwain drwy esiampl o ran amddiffyn a hybu ein hamgylchedd naturiol. “Mae Cyngor Sir y Fflint fel Awdurdodau Lleol eraill o dan bwysau ariannol parhaus ac estynedig, ond mae’n hanfodol fod mentrau amgylcheddol yn cael eu cofleidio fel cyfle i wella lles y sir gyfan, gwytnwch a gwneud arbedion ariannol gwerthfawr. “Er mwyn ymateb i’r her o ddadwneud y dirywiad mewn bioamrywiaeth mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu nawr a sicrhau ein bod fel awdurdod lleol yn diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.” Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried y Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 26 Medi.