Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae fy nheulu i’n maethu

Published: 03/10/2017

Mis Meibion a Merched: dathlu teulu maeth yw ymgyrch flynyddol Rhwydwaith Maethu i ddathlu’r cyfraniad hanfodol y mae plant gofalwyr maeth yn ei wneud i ofal maeth llwyddiannus. Bob blwyddyn, mae gwasanaethau maethu ledled y DU yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i gydnabod plant a phobl ifanc a’r rôl bwysig maen nhw’n chwarae wrth groesawu plant maeth i’w teuluoedd. Bydd tîm maethu Cyngor Sir y Fflint yn cynnal sesiwn wybodaeth ar 7 Tachwedd am 7pm yng Ngwesty Springfield, Treffynnon, gan gynnig cyfle i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth. Mae cant a dau ddeg pedwar o deuluoedd lleol yn maethu gyda Chyngor Sir y Fflint. Mae eu plant eu hunain, yn ogystal â’r plant maeth, yn byw gyda tua traean o ofalwyr maeth Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae plant gofalwyr maeth yn chwarae rôl bwysig yn croesawu plant maeth i’w teuluoedd a sicrhau lleoliadau maeth llwyddiannus. “Mae llawer o bobl yn dweud mai’r effaith bosib ar eu plant eu hunain yw un o’r prif rwystrau i ddod yn ofalydd maeth. Y realiti yw bod nifer o blant yn elwa o fod yn rhan o’r rhwydwaith gefnogi sy’n cael ei chynnig gan deulu maeth i blentyn maeth. Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad gwerth chweil a gall helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn.” Dywedodd Janette, gofalwr maeth Sir y Fflint: “Mae fy meibion fy hun wedi bod yn faethwyr ifanc ers nifer o flynyddoedd ac wrth fynychu digwyddiadau grwp, maen nhw’n cael y cyfle i gyfarfod maethwyr ifanc eraill ac yn ogystal â hynny, maer digwyddiadau’n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o deulu ehangach yn y rôl bwysig maen nhwn ei wneud.” Dywedodd Debra, gofalwr maeth arall yn Sir y Fflint: “Mae’r grwp maethu ifanc yn grêt. Mae ein plant yn mwynhau’r diwrnodau gwych. Nid yn unig maen nhw’n cael amser i fwynhau eu hunain, ond maen nhw hefyd yn cael cyfle i gyfarfod â maethwyr ifanc eraill. Yn ddiweddar, buon nhw ar daith i ‘Treetops’ ym Metws-y-Coed ac fe gafon nhw ddiwrnod ffantastig, llawn hwyl. Debra, Gofalwr Maeth Sir y Fflint. Mae tîm maethu Sir y Fflint yn cynnal grwp cefnogi ar gyfer meibion a merched eu gofalwyr maeth ac yn trefnu taith llawn hwyl yn ystod gwyliau’r ysgol i ddweud diolch. Eleni, mae’r grwp wedi mwynhau teithiau i fowlio deg, chwilfa laser, go cartio a thaith haf i ‘Treetops ym Metws-y-Coed. Mae parti anifeiliaid Calan Gaeaf wedi cael ei drefnu ar gyfer hanner tymor mis Hydref. I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i www.flintshirefostering.org.uk neu ffoniwch 01352 701965.