Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Gwahoddiad i’r Lansiad

Published: 11/07/2014

Mae’r frwydr yn erbyn rhywogaethau estron goresgynnol wedi dechrau trwy lansio Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad yn Wrecsam. Dros y penwythnos ymunodd arweinwyr cymunedau, hyrwyddwyr yr amgylchedd a’r cyhoedd mewn amryw o ddigwyddiadau lansio er mwyn dechrau cael gwared â jac y neidiwr, clymog Japan a’r cranc menigog oddi ar lannau Afon Dyfrdwy. Trwy gydol mis Gorffennaf bydd llu o ddigwyddiadau, sydd ar agor i bawb drwy’r rhanbarth, yn cael eu cynnal. Bydd ymdrech y cyhoedd yn helpu i daclo goresgynwyr estron ar draws dalgylch yr Afon Ddyfrdwy, o’i tharddiad ym Mharc Cenedlaethol Eryri yr holl ffordd trwy Swydd Gaer at ei aber yn Glannau y Dyfrdwy. Meddai’r Cynghorydd Carolyn Thomas, Cadeirydd Cydfwrdd Cynghori AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Sir y Fflint: “Yn ystod y chwe blynedd diwethaf mae’r prosiect i gael gwared â jac y neidiwr o ddyfrffyrdd y sir wedi bod yn llwyddiant mawr ac rydym wedi cael cefnogaeth wych gan gymunedau’r ardal wrth frwydro’n llwyddiannus yn erbyn y goresgynnwr estron yma. “Mae jac y neidiwr yn rhwystro planhigion eraill rhag tyfu, gan beri i lannau afonydd a chynefinoedd naturiol erydu, felly mae hi’n bwysig cael gwared â chymaint â phosibl ohono.” “Brwydr barhaus yw hon, ac mae ’na ddigonedd o gyfleoedd i wirfoddoli, felly cofiwch gysylltu â’n swyddog bioamrywiaeth lleol i gael mwy o wybodaeth am sut y gallwch helpu.” Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad pump o awdurdodau lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Prosiect DINNS, Cadwch Gymru’n Daclus, The Welsh Dee Trust, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Sw Caer, Record, Cofnod a Cyfoeth Naturiol Cymru i gyd yn gysylltiedig â threfnu’r digwyddiad. Mae calendr o ddigwyddiadau ar gael, a bydd digwyddiadau ar draws y rhanbarth yn cael eu diweddaru’n ddyddiol ar www.facebook.com/bigdeedaytheinvasion. Digwyddiadau lleol i Sir y Fflint: Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf - Atal Jac y Neidiwr - Caergwrle o 3pm tan 5pm. Cyfarfod ym maes parcio Caergwrle, Stryd Fawr. Gwisgwch ddillad awyr agored addas, esgidiau glaw a menig. Bydd lluniaeth ar gael. Maer digwyddiad hwn am ddim ond rhaid neilltuo lle o flaen llaw. Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf - Tynnu Jac y Neidiwr a Chasglu Sbwriel - Nant Swinchiard, Y Fflint. Am wybodaeth am ddigwyddiadau lleol ffoniwch Sarah Slater ar 01352 703263 neu e-bostiwch sarah.slater@flintshire.gov.uk I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Meryl Norris, Swyddog Prosiect DINNS yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar 01352 755472 neu merylnorris@wildlifetrustswales.org. Capsiynau: Llun 3, o’r chwith i’r dde: Amy Green, (Swyddog Bioamrywiaeth, Cyngor Sir y Fflint) gyda’r Cynghorydd Huw Jones (Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Sir Ddinbych) ym Mharc Gwledig Ty Mawr, Wrecsam. Llun 6, o’r chwith i’r dde: Y Cynghorydd Carolyn Thomas (Cadeirydd Cydfwrdd Cynghori AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Sir y Fflint), Y Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Rheolwr Arweiniol dros yr Amgylchedd), Y Cynghorydd Huw Jones (Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Sir Ddinbych), Richard Lucas (The Welsh Dee Trust), Meryl Norris (Swyddog Prosiect DINNS, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru) ym Mharc Gwledig Ty Mawr, Wrecsam. Llun 7: Meryl Norris (Swyddog Prosiect DINNS, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru) yn rhoi pigiad yng nghoesyn jac y neidiwr ym Mharc Gwledig Ty Mawr, Wrecsam, er mwyn ei reoli.