Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Rhaglenni Effeithlonrwydd Ynni

Published: 11/10/2017

Gofynnir i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint adolygu a thrafod adroddiad ar raglenni effeithlonrwydd ynni domestig a ddarperir yn Sir y Fflint, pan fydd yn cyfarfod y mis hwn. Mae’r adroddiad yn crynhoi rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig a ddarparwyd i aelwydydd mewn tai Cyngor a thai sector preifat yn y blynyddoedd diwethaf. Mae cyfanswm o 4,325 o aelwydydd wedi cael cefnogaeth yn y pum mlynedd ddiwethaf. Bydd y mesurau a osodwyd yn arbed £1.2 miliwn iddynt bob blwyddyn am oes y mesurau a osodwyd, ac yn arbed dros 123,000 tunnell fetrig o allyriadau carbon deuocsid. Mae’r prif raglenni yn cynnwys: · Paneli ffotofoltaidd solar (solar PV) – gosodwyd ar 1,106 o eiddo Cyngor; · Inswleiddio wal allanol (EWI) ac insiwleiddio atig, gan gynnwys y tri bloc fflatiau yn y Fflint; · Cynlluniau mewnlenwad nwy – gwresogi nwy o’r prif gyflenwad yw un o’r mathau rhataf o wresogi ac mae 476 o eiddo wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy yn chwe ardal y sir; · Cynlluniau arbrofol nad ydynt ar y prif rwydwaith – lle nad oedd yn ymarferol i gysylltu eiddo â’r prif rwydwaith, arbrofwyd â dewisiadau eraill ac eithrio tanwydd ffosil mewn 26 eiddo ym mhentrefi Gwespyr a Gwaenysgor; · Lansiodd y Cyngor y Gronfa Argyfwng Gwres Fforddiadwy yn 2013 sy’n ariannu ymweliadau â’r cartref i roi cyngor a chefnogaeth gweithiwr achos. Ers ei gychwyn, mae wedi helpu 887 o bobl a gosodwyd 2,655 o welliannau; · Yn 2015, cafodd y Cyngor gyllid ar gyfer y rhaglen Cartrefi Iach, Pobl Iach – mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu i gynyddu gwres fforddiadwy a lleihau anghydraddoldeb iechyd y gellir ei osgoi. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Sir y Fflint yw’r awdurdod lleol cyntaf yn y wlad i gael statws Partner Tlodi Tanwydd gyda’r rhwydwaith dosbarthu nwy yn ein hardal. Mae hyn yn golygu y gall y Cyngor gynnig taleb Cymorth Cartrefi Cynnes ei hun, sy’n cynnig cyfraniad i aelwydydd mewn tlodi tanwydd ar gyfer talu costaur cysylltiad nwy. “Er y pwysau economaidd heriol, bydd y Cyngor yn parhau i gynnig cefnogaeth bellach i denantiaid y Cyngor ac mae’n datblygu rhaglen tymor hirach a fydd yn cael ei chynnal ochr yn ochr â rhaglen gwella tai Safon Ansawdd Tai Cymru. Byddwn hefyd yn parhau â’r rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach.” Y prif adnodd ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni domestig i dai yn y sector preifat yw’r rhaglenni Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain wedi’u hatal ar hyn o bryd ac mae’r Cyngor yn aros am rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyllid pellach ar gyfer y rhaglenni hyn sydd fel arfer yn targedu aelwydydd sydd â’r risg mwyaf o ddioddef tlodi tanwydd.