Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cwn

Published: 11/10/2017

Ar 20 Hydref 2017 bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhoi Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar waith mewn perthynas â baw cwn a rheoli cwn. O’r dyddiad hwn ymlaen, bydd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn disodli’r hen Orchymyn Rheoli Cwn i greu ymagwedd fwy cynhwysfawr a chyson wrth ymdrin â materion megis baw cwn, cadw cwn ar dennyn a gwahardd cwn o lefydd penodol. Yn fras, maer gorchymyn yn ymdrin âr canlynol: Bydd gofyn i berson syn gyfrifol am gi gadw at yr amodau canlynol: 1. Codi gwastraff eu ci o’r holl lefydd cyhoeddus yn Sir y Fflint 2. Peidio â gadael i gi fynd ar y tiroedd canlynol: a. tir ysgolion b. caeau chwaraeon wedi eu marcio (caniateir cwn y tu allan i’r ardaloedd wedi eu marcio) c. ardaloedd chwarae ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, lawntiau bowlio a chyrtiau tenis d. mannau chwarae plant gydag offer 3. Cadw eu ci ar dennyn mewn mynwent. 4. Sicrhau bod ganddynt fodd priodol o godi baw ci 5. Rhoi eu ci ar dennyn, pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny, os yw’r ci yn rhydd ac yn niwsans neun poeni unrhyw unigolyn, aderyn neu anifail arall Dywedodd y Cynghorydd Chirs Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae baw cwn yn broblem fawr yn ein cymunedau. Mae’r rhan fwyaf o berchnogion yn gyfrifol ond mae’r gorchymyn hwn yn ein galluogi ni i weithredu yn erbyn y rheiny sy’n anghyfrifol. Does gan berchnogion cwn cyfrifol ddim i’w boeni yn ei gylch yn sgil y gorchymyn hwn”. Bydd y gorchymyn yn weithredol am gyfnod o dair blynedd o’r dyddiad cychwyn, sef 20 Hydref 2017. Mae unrhyw berson a ganfyddir yn euog o dorri’r gorchymyn yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy o hyd at £1,000. Bydd torri unrhyw un o’r amodau uchod yn arwain at gyhoeddi hysbysiad cosb benodedig o £75 gan swyddog awdurdodedig.