Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar B5101 Ffrith

Published: 13/10/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch y gyhoeddi bod y gwaith adfer ar y B5101 rhwng Ffrith a’r B5012 wedi’i gwblhau. Cafodd y ffordd ei hailagor gyda’r nos ar 6 Hydref ar ôl tirlithriad a achosodd ddifrod i’r ffordd, gan adael llanast ar y briffordd. Gadwyd y llethr a oedd ar ôl mewn cyflwr ansefydlog, a fyddai wedi achosi perygl arall i draffig wrth fynd heibio. Bu tîm Strydwedd y Cyngor yn gwneud y gwaith adfer, a oedd yn cynnwys cael gwared â choed wedi disgyn neu rai ansad, adraddio’r llethr a chael gwared â phridd ansefydlog a thrwsior ffordd a oedd wedii difrodi. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Rydyn ni’n gwerthfawrogi amynedd y cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn ac fe hoffwn i ddiolch in swyddogion Strydwedd a Chludiant am eu gwaith caled i ailagor y ffordd yn ddi-oed ac yn ddiogel. Bydd ein hadran gyfreithiol yn ceisio adennill costau llawn y gwaith.”