Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dangosiad ffilm lwyddiannus o hen ffefryn 
  		Published: 13/10/2017
Cafodd ddangosiad ffilm o hen ffefryn yn Sinema Fflint yn ddiweddar.
 
“Singing in the Rain” oedd yr ail dro i Grwp Llywio Cymunedau sy’n Gyfeillgar i 
Dementia wahodd pobl i’r sinema.
 
 Yn ddiweddar cafodd Sinemar Fflint ei achredu gan y grwp am y camau y maent 
yn eu cyflawni i drefnu’r ffilmiau sydd yn gyfeillgar i ddementia. 
 
Roedd y digwyddiad yn agored i bawb ond roedd croeso pennaf i fynychwyr caffi 
cofio yn Sir y Fflint a phobl sydd yn byw gyda dementia o Fflint a chartrefi 
gofal lleol. 
 
 Bu i bawb a oedd yn bresennol fwynhau profiad o sinema glasurol hen ffasiwn; 
gyda thywyswyr yn mynd â phobl i’w seddau gyda golau bach, gwerthu popcorn ar 
hambyrddau, ac egwyl a hufen ia.   Hefyd bu iddynt fwynhau canu gyda’r ffilm, 
roedd cymorth yno ac roedd hi’n dawelwch nar arfer a digon o olau. Roedd nifer 
o bobl yn cofio’n ôl i’r sinema a phryd y gwnaethant fynychu’r tro diwethaf. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
 
“Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig profiad gwych i bobl gyda dementia a’u 
gofalwyr, ac yn gwella’r gwaith da sydd yn cael ei wneud yn Sir y Fflint iw 
helpu iw cefnogi.
 
Roedd y sylwadau ar ôl y digwyddiad yn cynnwys:
“Prynhawn hyfryd! Popcorn, canu, ac ychydig o ddawnsio yn ein seddau! Rwyf yn 
hoffi’r cymysgedd o seddi cyfforddus a’r soffas, prynhawn hyfryd gan bawb, 
diolch i aelodau eraill y pwyllgor llywio am drefnu hyn.
“Prynhawn hyfryd... rwy’n dal i siarad amdano! Diolch am y gwahoddiad... rydym 
i gyd yn edrych ymlaen at y ‘prynhawn o ffilm’ nesaf”.
Ffilm nesaf dydd Gwener, 1 Rhagfyr lle bydd y ffilm White Christmas” yn cael 
ei ddangos am 1pm.