Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ein Sir y Fflint, Ein Dyfodol 2017

Published: 13/10/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ymgysylltu cyhoeddus ynglyn âr dyfodol. Yn y cyfarfodydd hyn, byddwn yn rhannu ein sefyllfa, yn egluro ein cynllun ac yn gofyn am eich cefnogaeth. Mae popeth mae’r Cyngor yn ei wneud yn bwysig i rywun ac mae Sir y Fflint yn ymfalchïo o fod yn gyngor sy’n perfformio’n dda ar gyfer ei gymunedau lleol ac un sy’n cael ei gymell gan werthoedd cymdeithasol cryf. Bydd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton, a’r Prif Weithredwr, Colin Everett, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, allan mewn cymunedau lleol yn cyfarfod sefydliadau cymunedol, busnesau cymunedol a phobl leol i drafod cynlluniaur Cyngor dros y pum mlynedd nesaf ar heriau ariannol parhaus maen eu hwynebu. I gael gwybod mwy, gallwch gofrestru i ddod i un o saith digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus a gynhelir mewn lleoliadau ledled y Sir. Er bod pob digwyddiadau wedi’u cynllunio gan ystyried cymunedau penodol, peidiwch â phoeni os na allwch fod yn bresennol ar y dyddiad ar gyfer eich ardal leol chi. Mae croeso i chi gofrestru ar gyfer y dyddiad a/neu leoliad sy’n gweddu orau i chi. Bydd pob cyfarfod yn cael ei gynnal o 6.30pm tan 8.30pm: Dydd Mawrth 24 Hydref Ysgol Gwynedd, y Fflint Dydd Iau 26 Hydref Ysgol Maes y Felin, Treffynnon Dydd Llun 6 Tachwedd Ysgol Bryn Coch, yr Wyddgrug Dydd Mercher 8 Tachwedd Ysgol Mountain Lane, Bwcle Dydd Llun 13 Tachwedd Ysgol Sandycroft Dydd Mawrth 14 Tachwedd Ysgol Cae’r Nant, Cei Connah Dydd Mawrth 21 Tachwedd Ysgol Gynradd Brychdyn Niferoedd cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch le nawr. Gallwch wneud hyn drwy ymweld â gwefan Cyngor Sir y Fflint ar www.siryfflint.gov.uk/EinSiryFflint17 ac archebu lle ar-lein neu fe allwch ffonio 01352 701701 i gofrestru.