Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb –14-21 Hydref

Published: 17/10/2017

Mae hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth O Droseddau Casineb Cenedlaethol yr wythnos hon, amser tynnu sylw at drosedd casineb, annog dioddefwyr i adrodd ac i atal tramgwyddwyr Mae Cyngor Sir Y Fflint yn ymuno â phartneriaid ar draws y rhanbarth, gan gynnwys awdurdodau lleol eraill, Heddlu Gogledd Cymru a Chymorth i Ddioddefwyr, i weithio gyda’i gilydd i dynnu sylw at faterion trosedd casineb a hyrwyddo pobl i adrodd i’r Heddlu a Chymorth i Ddioddefwyr. Trosedd casineb yw unrhyw drosedd sydd wedii dargedu at unigolyn oherwydd gelyniaeth neu ragfarn tuag atynt. Gall anabledd, tras neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu drawsrywedd unigolyn achosir rhain. Gall y drosedd fod ar lafar, ar ffurf graffiti tramgwyddus, bygythiadau, difrod i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun sarhaus, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn. Dywedodd y Cynghorydd Chirs Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd: “Derbynnir yn gyffredinol nad oes digon o adrodd am achosion o droseddau casineb a gall gael effaith sylweddol ar ei ddioddefwyr, a ni ddylent orfod dioddef yn dawel. Er bod lefelau troseddau casineb yn eithaf isel yn y sir, rwyn falch o weld ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i godi proffil y mater pwysig a pherthnasol hwn.” Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn ddioddefwr trosedd casineb, mae nifer o ffyrdd i adrodd amdano: · Ffonio’r Heddlu yn uniongyrchol drwy ddeialu 999 os ydych mewn perygl brys, neu 101 ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn rhai brys, neu gwblhau ffurflen adrodd ar-lein Heddlu Gogledd Cymru y gellir ei weld yma https://www.north-wales.police.uk/advice-and-support/stay-safe/hate-crime?lang=c y-gb · Ffonio: 0300 30 31 982 [Yn rhad ac am ddim, 24/7] i gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr yn uniongyrchol. Caiff galwadau eu trin yn gyfrinachol ac mae gennych chi’r opsiwn i barhau’n ddienw. · Gallwch hefyd adrodd ar-lein yn www.reporthate.victimsupport.org.uk