Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwelliannau i Gomin Uchaf Bwcle

Published: 17/10/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi dechrau gwaith i wella diogelwch ar Gomin Uchaf Bwcle. Yn dilyn gweithgarwch sipsiwn a theithwyr ar y comin ac o’i amgylch, mae’r Cyngor wedi ymgynghori â thrigolion lleol, wedi rhannu cynlluniau a derbyn adborth arnynt er mwyn gwella diogelwch o amgylch perimedr y comin. Mae’r gwaith, a fydd yn cymryd oddeutu chwe wythnos i’w gwblhau, yn cynnwys cloddio ffos fas a bwnd o amgylch perimedr y Comin Uchaf, gosod rhwystr uwchben i’r maes parcio a gosod cerrig mewn mannau penodol. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Rwyf yn falch o gyhoeddi bod y gwaith i ddiogelur Comin Uchaf rhag gwersylloedd sipsiwn a theithwyr yn dechrau’r wythnos hon. Mae’r gymuned leol wedi gofyn i ni wella perimedr y comin i atal pobl rhag sefydlu gwersylloedd. Bu i ni gyflwyno ein cynlluniau ar gyfer y gwaith i’r gymuned leol ac roedd yna gryn dipyn o gefnogaeth iddyn nhw. Mae’r gwaith yn cael ei wneud o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwnnw, er bod ychydig o bethau wedi eu haddasu i adlewyrchu’r sylwadau a dderbyniwyd, ar y cyfan, roedd pobl yn gefnogol iawn i’r cynlluniau.