Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prif Wobr i Ysgol Sir y Fflint

Published: 19/10/2017

Mae Ysgol Gwynedd yn Fflint wedi’i dyfarnu â’r radd uchaf yn dilyn asesiad gan sefydliad Buddsoddwyr Mewn Pobl. Cafodd yr ysgol ei hasesu yn erbyn safon Iechyd a Lles Buddsoddwyr Mewn Pobl, gan gyflawni Gwobr Platinwm am Berfformiad Da. Caiff y lefel hon ei dyfarnu i lai na 2% o sefydliadau dros y byd i gyd. Mae’r wobr yn edrych ar arweinyddiaeth yr ysgol a’r cyfleoedd i staff a disgyblion aros yn iach, yn gorfforol ac yn feddyliol. Dywedodd y pennaeth, Jeremy Griffiths: “Rydym yn falch iawn o’r cyflawniad hwn. Mae’n wych cael archwiliad allanol ac i gael ein meincnodi yn erbyn arfer gorau syn arwain y sector. Mae pawb yn yr ysgol yn gwneud cyfraniad sylweddol i sicrhau ein bod ni i gyd yn “Tyfu, Dysgu, Llwyddo, Gydan Gilydd, sef arwyddair yr ysgol. Mae popeth a wnawn yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau i’n disgyblion.” Nododd yr adroddiad sawl nodwedd ragorol, yn cynnwys sylwadau cadarnhaol gan staff. Nododd yr aseswr, Sarah Botterill, y canlynol: “Mae gwerthoedd Ysgol Gwynedd yn glir, wedi’u cyfathrebu’n dda ac wedi’u deall. Mae gwerthoedd wedi’u hymgorffori ac yn darparur sylfaen ar gyfer y diwylliant cadarnhaol sydd yno. Mae’r ysgol wedi cysylltu amcanion strategol yr ysgol (canlyniadau disgyblion) yn glir â lles y staff syn gweithio yno. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Wobr Blatinwm hon am “Berfformiad Da” yn anrhydedd teilwng, ac mae staff a disgyblion Ysgol Gwynedd wedi gweithio’n galed iawn dros lawer o flynyddoedd i ymgorffori iechyd a lles wrth wraidd popeth a wnawn. Mae hon yn gamp enfawr ir ysgol ac yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono fel sir.” Dywedodd Prif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid Sir y Fflint, Claire Homard: “Maent wir yn haeddur wobr hon, ac maen adlewyrchiad cadarnhaol ar ansawdd yr arweinyddiaeth ar gwaith tîm yn Ysgol Gwynedd i gadw iechyd a lles cymuned yr ysgol gyfan ar flaen y gad o ran rhaglen yr ysgol. Rwy’n llongyfarch y pennaeth, y staff, y llywodraethwyr a disgyblion yn Ysgol Gwynedd.”