Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Published: 24/10/2017

Trafodwyd perfformiad Cyngor Sir y Fflint yn ystod 2016-17 mewn cyfarfod Cabinet ddydd Mawrth 24 Hydref cyn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor. Mae’r adroddiad yn adlewyrchur cynnydd da a wnaed ar y cyfan yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2016/17, ac maen crynhoi cyflawniadaur sefydliad. Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gael ei lywodraethun dda a pherfformion dda. Mae ein perfformiad da cyson wedi cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol. Sir y Fflint ywr cyngor sydd wedi gwella fwyaf drwy Gymru wrth gymharu mesuryddion perfformiad tebyg. Mae rhai o’n llwyddiannau i’w gweld isod: · Cysylltodd dros 3,300 o gwsmeriaid â’r gwasanaeth tai am gyngor a chymorth. Cafodd 63.4% or ymholiadau hyn eu datrys ar y pwynt cyswllt cyntaf, gan ganiatáu i’n timau arbenigol allu canolbwyntio ar y 36.6% o achosion cymhleth a brys a oedd ar ôl. · Roedd deuddeg o dai Cyngor newydd wedi’u cwblhau drwy raglen Tai ac Adfywio Strategol SHARP ar safle hen ysgol Lôn Custom House a bydd gwaith yn parhau yn 2017/18. · Sicrhaodd y Cyngor 285 eiddo “ecwiti a rennir” ar gyfer rhai a oedd yn prynu ty am y tro cyntaf drwy gyfraniadau datblygwyr. Mae datblygwyr hefyd wedi rhoi eiddo’n rhoddion i North East Wales (NEW) Homes sydd werth £3 miliwn. · Rydym wedi cefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar y cwsmer mewn 16 o gartrefi preswyl a 3 cartref nyrsio drwy ddarparu hyfforddiant a chanllawiau “Progress for Providers”. · Mae tair cymuned cyfeillgar i Ddementia yn Sir y Fflint ac mae pedair cymuned arall yn ymgeisio i gael y statws. Mae gennym bellach 38 o fusnesau sy’n gyfeillgar i Ddementia a 10 caffi cof. · Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod â rhan allweddol mewn datblygu Cais am Fargen Twf Economaidd ar gyfer Gogledd Cymru gyda Llywodraethau Cymru ar DU. · Derbyniwyd 181 ymholiad busnes a daeth buddsoddiad o 158 or rheini, syn gyfradd o 87.2%. · Fe greodd ein partner datblygu ar gyfer y Rhaglen Tai Strategol ac Adfywio (SHARP) 12 o brentisiaethau, a 4 o’r rheini drwy gynllun rhannu prentisiaethau Sir y Fflint, Gwaith yn yr Arfaeth. · Mae Sir y Fflint yn uwch nar cyfartaledd rhanbarthol a chyfartaledd Cymru o ran y ganran o ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 syn cyflawni gwell canlyniadau mewn mathemateg – rydyn ni’n 5ed drwy Gymru. Yng Nghyfnod Allweddol 2, rydym wedi gwella 2.2% ir lefel uchaf yng Ngogledd Cymru ac ir 6ed safle drwy Gymru. · Mae 57% o bobl ifanc oed ysgol Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg llawn amser (46% yw cyfartaledd Cymru). · Bu i ni helpu aelwydydd yn Sir y Fflint i gael incwm ychwanegol gwerth dros £1.5 miliwn drwy fudd-daliadau. · Cefnogodd Cymunedau yn Gyntaf 99 o bobl i gael gwaith llawn amser neu ran amser a helpu 247 o gleientiaid di-waith yn hirdymor i gael cymhwyster, i’w cynorthwyo i fod yn fwy parod am waith. · Roedd 87% or gweithwyr yn Neuadd y Sir yn gweithio’n hyblyg, sy’n golygu bod 819 o ddesgiau ar gyfer 944 o weithwyr. · Yn unol â Strategaeth Ddigidol y Cyngor, roedd nifer y trafodion digidol ar-lein wedi cynyddu ac roedd 11,000 o gwsmeriaid yn dymuno gohebu gyda’r Cyngor ar-lein drwy’r wefan. Roedd cynnydd o 19% yn nifer y rhai a oedd yn defnyddio gwefan y Cyngor hefyd. Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: “Maer Cyngor yn gwneud cynnydd da mewn meysydd a nodwyd yn flaenoriaethau. Er gwaethaf pwysau ariannol mawr a llai o gyllid cenedlaethol, mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i gyflawni ei nodau am flwyddyn arall.” Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Maer Cyngor wedi profi unwaith eto ei fod yn sefydliad syn perfformion dda, gan osod targedau a chyflawnir blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Gwella.” Mae’n rhaid cyhoeddi’r Adroddiad erbyn 31 Hydref, ac yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 24 Hydref, bydd gofyn i’r cynghorwyr gymeradwyo’r adroddiad i gael ei gyhoeddi. Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint nodi’r cynnydd ar waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir y Fflint a chefnogi themâu’r BGC ar gyfer y Cynllun Lles pan fydd yn cyfarfod ar 24 Hydref. Ffurfiwyd y BGC ym mis Ebrill 2016, fel cyfrifoldeb statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae wedi canolbwyntio ar lunior Asesiad Lles a datblygur Cynllun Lles a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2018. Ar ben hynny, mae’r BGC wedi parhau i weithio ar flaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLl) blaenorol ac mae hefyd yn cynnal ei rôl statudol o’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o weithio mewn partneriaeth. Mae BGC Sir y Fflint yn greiddiol ir gwaith o hybu arferion cydweithio cadarnhaol ac maen canolbwyntio egni, ymdrech ac adnoddau ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon. Mae Asesiad Lles wedi’i lunio a’i gyhoeddi ar gyfer Sir y Fflint, yn unol â gofynion statudol. Mae hwn yn rhoi darlun cyfoes o fywyd a lles yn Sir y Fflint. Mae’r Cynllun Lles yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethaur Dyfodol (Cymru) ac fe fydd wedii lunio ai gyhoeddi erbyn mis Mai 2018. Mae pum blaenoriaeth yn y cynllun hwn sydd wediu dewis gan mai yma maer BGC yn credu y gall ychwanegur gwerth mwyaf. Y rhain yw: · Lles a Bywn Annibynnol (hen flaenoriaeth y BGLl) · Diogelwch Cymunedol (hen flaenoriaeth y BGLl) · Cymunedau Gwydn (blaenoriaeth newydd) · Yr Economi a Sgiliau (blaenoriaeth newydd) · Yr Amgylchedd (blaenoriaeth newydd) Mabwysiadwyd themâu a blaenoriaethau/is-flaenoriaethaur BGC yn ffurfiol gan holl aelodaur BGC ac mae gwaith ar fynd i osod y rhain yn y Cynllun Lles drafft. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd yn cychwyn ar y Cynllun y mis hwn ac fe ddaw i ben ym mis Ionawr 2018. Mae’r themâu hyn hefyd wedi’u cyfleu yn glir yng nghynllun y Cyngor ei hun ar gyfer eleni, gan nodi cyfraniad ymrwymiadau’r Cyngor i’r Cynllun Lles. Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y BGC, bydd Cynllun Lles Sir y Fflint yn cael ei gyflwyno ir holl gyrff syn aelodau or Bwrdd iw gymeradwyo gyda golwg ar ei gyhoeddi yn gynnar ym mis Mai 2018. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Reolaeth Gorfforaethol ac Asedau: “Drwy’r Cynllun Lles, gall Cyngor Sir y Fflint ai sefydliadau partner yn y BGC sicrhau eu bod yn gweithio tuag at yr un amcanion er budd trigolion lleol. Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella bywydau pobl leol. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ers amser maith ac mae blaenoriaethau’r BGC yn cyd-fynd â Chynllun y Cyngor. Mae’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu’n disgwyl ir partneriaid yn y sector statudol ar trydydd sector weithio gydai gilydd, gweithio at flaenoriaethau a rennir a chyflawni pethau, drwy ymdrechion ar y cyd.” Polisi Diogelu Corfforaethol Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo’r Polisi Diogelu Corfforaethol pan fydd yn cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis. Mae diogelu’n berthnasol i bawb ym mhob gwasanaeth o fewn y Cyngor. Er mai’r Gwasanaethau Cymdeithasol ywr gwasanaeth sy’n arwain wrth ymdrin ag ymholiadau sy’n ymwneud â honiadau a phryderon, mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu lles plant, pobl ifanc ac oedolion, beth bynnag fo’u rôl. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyd-gefnogwr Diogelu Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r polisin disgrifio rolau a chyfrifoldebau pob gweithiwr, yn ogystal ag aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y gwahanol fathau o gam-drin, deall arwyddion camdriniaeth a sut i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd gennych. “Nid ywr polisin disodlir trefniadau presennol o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol; yn hytrach, mae’n nodi dyletswydd y Cyngor fel sefydliad cyfan, gan egluror cyfrifoldebau ar bob lefel, waeth ym mha faes maen nhwn gweithio. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol a Chyd-gefnogwr Diogelu Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i’w gyfrifoldebau ac mae wedi cymryd camau cadarnhaol drwy sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol mewnol i sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae’r polisi o ganlyniad ir gwaith y mae’r Panel wedi’i wneud hyd yma.” Bydd y polisi’n cael ei gefnogi gan sawl mesur sydd ar gael i weithwyr ac aelodau etholedig, gan gynnwys: · Cwestiynau cyffredin; · Dwy raglen e-ddysgu i ddiogelu plant a diogelu oedolion sydd ar gael ar-lein; · Darparwyd pedwar sesiwn hyfforddi diogelu gan AFTA Thought, sefydliad sy’n arbenigo mewn hyfforddi drwy ddrama, ym mis Mai a Mehefin a oedd yn trafod gwahanol faterion diogelu. Daeth bron i 300 o weithwyr i’r sesiynau hyn o sawl maes; · Bydd cyflwyniadau ar ddiogelu’n cael eu rhoi ir Pwyllgorau Craffu dros y misoedd nesaf i godi eu hymwybyddiaeth; · Cyhoeddi newyddlen ar Ddiogelu Corfforaethol i ategu mor bwysig yw adnabod a rhoi gwybod am bryderon ac i amlygu materion cyfredol. Polisi Cynhyrchu Incwm Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo Polisi Cynhyrchu Incwm pan fydd yn cyfarfod ar 24 Hydref 2017. Mae nifer o amcanion allweddol yn y polisi hwn i gynorthwyo wrth osod ffioedd a thaliadau addas sydd wediu meincnodi, ynghyd â threfn o adolygun rheolaidd a monitro. Mae’r Cyngor wedi cynnal adolygiad o’i ffioedd a’i daliadau ac wedi casglu bod: · rhai o ffioedd y Cyngor yn briodol; · angen adolygu ffioedd eraill i sicrhau eu bod yn cwrdd â chostau, lle bo hynnyn briodol; a · bod nifer o gyfleoedd i adennill ffioedd a thaliadau y gellir, ar sail gweithgarwch awdurdodau lleol eraill, eu hadennill yn gyfiawn. Dyma rai o brif amcanion y polisi: · Casglu cymaint â phosib o incwm drwy adennill costaun llawn lle bo modd; · Sicrhau bod ffioedd yn adlewyrchu’r gallu i dalu; · Cymharu costau gyda’n sector ein hunain a’r farchnad; · Ystyried unrhyw gystadleuaeth i ddarparu’r gwasanaeth gan y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol; · Sicrhau bod ffioedd a thaliadau’n cael eu pennu mewn modd sy’n ategu amcanion polisïau ehangach y Cyngor; · Casglu costau mor effeithlon â phosib’, cyn y pwynt darparu a chynnig cymaint â phosib o ffyrdd i gwsmeriaid dalu. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint: “Mae ffioedd a thaliadau’n rhan bwysig o gynlluniau ariannol y Cyngor ac mae’r adolygiad a gynhaliwyd wedi ceisio sicrhau bod trefniadau clir ar waith i bennu, adolygu ac adennill ffioedd a thaliadau, gan ystyried gallu cwsmer i dalu. Ar adeg pan mae mwy o alw ar wasanaethau a llai o gymorth ariannol yn genedlaethol, mae’n hollbwysig, er mwyn i wasanaethau lleol fod yn wydn yn y dyfodol, bod y Cyngor yn gwneud y mwyaf oi allu i gasglu mathau eraill o incwm i leihau effaith toriadaur llywodraeth. Polisi’r Gymraeg yn y Gweithle Bydd gofyn ir Aelodau fabwysiadu Polisir Gymraeg yn y Gweithle ar gyfer Sir y Fflint yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ddydd Mawrth 24 Hydref. Pwrpas polisi’r Gymraeg yn y Gweithle yw: i) hyrwyddo agweddau positif ac annog gweithwyr i ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. ii) cynyddu nifer y gweithwyr Cymraeg eu hiaith a darparu cyfleoedd i weithwyr sydd eisoes yn rhugl yn y Gymraeg ac ir rheiny sy’n dysgu i ddefnyddior Gymraeg yn y gwaith. iii) Annog amgylchedd gwaith dwyieithog lle mae gan weithwyr ryddid a chefnogaeth i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint: “Bydd gweithredu’r polisi hwn yn cefnogi’r Cyngor i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog a chydymffurfio â Safonaur Gymraeg. Ymysg pethau eraill, byddwn yn gallu dibynnu llai ar wasanaethau cyfieithu, defnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith a denu a chadw mwy o weithwyr Cymraeg eu hiaith. Mae hefyd yn cefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor, sy’n anfon neges glir yn fewnol ac yn allanol bod y Gymraeg yn werthfawr y tu allan i’r ysgol a’i bod yn ased i gyflogaeth. “Bydd cynnig mwy o gyfleoedd i weithwyr weld, clywed, defnyddio ac ymarfer eu Cymraeg yn y gwaith yn eu cefnogi i fod yn fwy hyderus a medrus wrth wella ansawdd y gwasanaethau Cymraeg ir cyhoedd. Po fwyaf mae pobl yn cael eu trochi yn yr iaith, mwyaf y maent yn ei ddysgu. Mae her i allu’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ar ffurf anhawster wrth recriwtio i swyddi sydd â Chymraeg yn hanfodol. Er mwyn gwella’r sefyllfa, mae’r Cyngor yn adolygu pethau fel: · defnyddio geiriau ymarferol, hawdd eu deall i ddisgrifio lefel y sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer swyddi. Mae cyflogwyr sy’n defnyddio enghreifftiau penodol o’r lefel o sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y swydd yn hytrach na nodi Cymraeg hanfodol” yn unig yn dweud eu bod wedi cael gwell hwyl ar recriwtio siaradwyr Cymraeg; · defnyddio cyfryngau Cymraeg i hysbysebu swyddi; a · datblygu datrysiadau eraill os nad oes modd recriwtio ymgeiswyr syn siarad Cymraeg, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i weithiwr ddysgu Cymraeg hyd at lefel benodol o fewn cyfnod penodol neu hyfforddi siaradwr Cymraeg i fodloni gofynion eraill y swydd. Ychwanegodd y Cynghorydd Mullin: “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau y gallwn fodloni’r Safonau’n ymarferol, gan gydnabod daearyddiaeth a dadansoddiad demograffig ardal y Cyngor. Mae adnoddau i gefnogi rheolwyr a gweithwyr ar gael, gan gynnwys datblygu tudalen ar y fewnrwyd i ddarparu adnoddau ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Cyfamod y Lluoedd Arfog Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo adroddiad blynyddol cyntaf y Cyngor ar Gyfamod y Lluoedd Arfog pan maen cyfarfod ar 24 Hydref. Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog au teuluoedd yn cael eu trin yn deg. Maer Cyfamod yn gyfrifoldeb cenedlaethol syn cynnwys y llywodraeth, busnesau, awdurdodau lleol, elusennau ar cyhoedd, gan annog cymunedau lleol i gefnogir lluoedd arfog yn eu hardal ac i hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog drwy weithio gyda nifer o bartneriaid sydd wedi llofnodi ein Cyfamod, gan gynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a’r Lleng Brydeinig. Pwrpas Cyfamod Sir y Fflint yw annog cefnogaeth ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog sy’n gweithio ac/neu’n byw yn Sir y Fflint a chydnabod a chofio eu haberth. Mae grwp llywio amlasiantaeth wedi’i sefydlu ac mae’r Cynghorydd Andrew Dunbobbin, sef Cefnogwr y Lluoedd Arfog ar ran y Cyngor, yn cadeirio’r grwp. Mae’r grwp llywio wedi cwblhau hunanasesiad mewn perthynas â’r Cyfamod ac wedi datblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r gwaith. Mae’r cyflawniadau allweddol wedi’u nodi yn yr adroddiad blynyddol ac maent yn cynnwys: · tudalen wedi’i neilltuo ar wefan y Cyngor sy’n darparu gwybodaeth a chymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog a dolenni i wefannau asiantaethau allweddol fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC); · ymrwymiad i’r Cyfamod yng Nghynllun y Cyngor 2017/18; · gweithredu Polisi Milwyr wrth Gefn sy’n rhoi pythefnos yn ychwanegol o wyliau i weithwyr syn filwyr wrth gefn iw galluogi i fynd ir gwersyll hyfforddi blynyddol a rhoi cefnogaeth ir rhai sydd wediu galw ymlaen iw cynorthwyo wrth ddod yn ôl ir gwaith a chynnal statws gwasanaeth parhaus; · cynnig cyfweliadau diamod i gyn-filwyr syn bodloni meini prawf hanfodol y swydd; · mae Cynlluniau Llety â Chymorth i gyn-filwyr ar gael yn Sir y Fflint mewn partneriaeth â First Choice Housing. Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin: “Mae’r Cyngor hefyd yn aelod gweithgar o Fforwm Lluoedd Arfog Rhanbarthol Gogledd Cymru sy’n cynnwys chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru a BIPBC. Mae cynnig llwyddiannus gan awdurdodau lleol Gogledd Cymru am gyllid am ddwy flynedd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi arwain at benodi dau Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog dros dro ar gyfer Gogledd Cymru. Bydd y swyddi hyn yn cefnogi awdurdodau lleol i weithredu’r Cyfamod a gweithio gyda gwasanaethau i ddiwallu anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog.” Cais am Gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer Bryn y Beili Yn nes ymlaen yn y mis, bydd gofyn i aelodau o Gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno ar adroddiad ar gais am gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri Cam 2 ar gyfer Bryn y Beili yn yr Wyddgrug a chytuno ar gyfraniad y Cyngor. Mae Bryn y Beili’n brosiect arwyddocaol i wella amgylchedd treftadaeth y castell tomen a beili ym Mryn y Beili. Mae hyn yn cynnwys torri nifer o goed, gwella mynediad at y safle, creu ardal chwarae newydd a gosod dehongliadau ar hyd y safle gan gynnwys ardal arddangos yn y porthdy. Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref yr Wyddgrug a Grwp Cyfeillion Bryn y Beili. Llwyddwyd i sicrhau dyraniad o £43,000 o gais am gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri Cam 1 yn 2016 i ariannur cam datblygu. Mae disgwyl i’r gwaith hwn ddod i ben cyn diwedd 2017, ac mae disgwyl i gais Cam 2 gael ei gyflwyno os ywr partneriaid yn cytuno ar y gwaith ar ddechrau 2018. Amcangyfrifir y bydd y gwaith pellach, sy’n cynnwys gwelliannau i’r fynedfa, adnewyddu a datblygu’r porthdy, gwella mynediad i’r beilïau mewnol ac allanol, arwyddion a byrddau dehongli a rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau wediu harwain gan benodiad am gyfnod penodol o dair blynedd, yn costio cyfanswm o £1.38 miliwn, heb gynnwys yr ardal chwarae. Nid yw’r ardal chwarae’n gymwys yn ôl y Loteri Dreftadaeth, ond mae’n rhan allweddol o’r cynllun cyffredinol. Mae cyfraniad y Cyngor eisoes wedii neilltuo fel cyllid ar gyfer yr ardal chwarae. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Fe gytunodd y Cabinet ym mis Mawrth y byddai cyllid cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i wella ardaloedd chwarae a chaeau pob tywydd. Fe gafodd ardal chwarae Bryn y Beili ei nodi’n un “goch”, angen ei thrwsio, ac rydym yn amcangyfrif y byddai’n costio rhwng £50,000 a £100,000. Byddai angen yr arian hwn yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20. Er nad yw’n rhan o gynllun cyffredinol Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd y dyraniad hwn yn allweddol er mwyn i Gronfa Treftadaeth y Loteri gytuno ar eu cyfraniad terfynol at y cynllun.” Teithio Llesol Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Teithio Llesol Sir y Fflint cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru pan maen cyfarfod ar 24 Hydref. Mae’r Cynllun yn rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 sydd wedi’i bwriadu i helpu mwy o bobl i ddewis cerdded neu feicio ar deithiau byr yn hytrach na defnyddio cerbydau, fel gyrru neu fynd ar y bws, pan mae hin addas iddynt wneud hynny. Er mwyn helpu i lunio cynllun lleol ar gyfer Sir y Fflint, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu anffurfiol cyn cynnal yr ymgynghoriad statudol rhwng 3 Gorffennaf a 24 Medi 2017. Bydd canlyniad y broses hon yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 3 Tachwedd er mwyn ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi ar dudalen we Teithio Llesol y Cyngor. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Maer Ddeddf Teithio Llesol yn rhoi cyfle i ni wneud Cymru’n genedl teithio llesol. Er bod y Ddeddf yn ymwneud yn benodol â chysylltiadau â gwasanaethau a chyfleusterau, mae Sir y Fflint yn cydnabod manteision teithio llesol o ran hamdden ac iechyd y gymuned. Felly, bydd unrhyw sylwadau a dderbynnir yn ystod y broses ymgynghori ynglyn â defnyddio’r Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer y diben hwn yn cael eu hystyried pan mae cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith strategol yn cael eu datblygu. Gwytnwch Cymunedol Bydd gofyn i aelodau Cabinet Sir y Fflint gytuno ar Strategaeth Buddion Cymunedol y Cyngor wrth gyfarfod nesaf ar 24 Hydref. Un flaenoriaeth allweddol o Gynllun y Cyngor yw ‘Cyngor Cysylltiedig’ gydag is-flaenoriaeth o Gymunedau Gwydn. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint hefyd wedi datblygu blaenoriaeth sy’n ymwneud â ‘Chymunedau Gwydn’. Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd buddion cymunedol ac mae wedi nodi set o fuddion cymunedol y gellir eu defnyddio mewn pob math o gontractau caffael, ond sydd hefyd yn gallu cael eu defnyddio i asesu lefel y manteision cymunedol mae sefydliad yn eu darparu. Yn rhan o’r broses gaffael, bydd gofyn i sefydliadau nodi sut y byddant yn cyfrannu at amcanion manteision cymunedol ac fe fyddant yn cael eu hasesun rhan or gwerthusiad tendro. Bydd hyn yn cynnwys meysydd fel: • y camau iw cymryd er mwyn er mwyn darparu buddion cymunedol; • sut fydd y camau hyn yn sicrhau bod y buddion yn cael eu darparu; ac • y budd y bydd pob cam yn ei darparu i gymunedau. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae’r Cyngor wedi gweithio’n galed i dyfu’r sector cyhoeddus drwy ddatblygu mentrau cymdeithasol, trosglwyddo asedau cymunedol a modelau darparu eraill. Elfen allweddol o’r twf hwn yw datblygu mentrau cymdeithasol sydd o faint sylweddol ac syn gallu cefnogi datblygiad mentrau cymdeithasol eraill – fel Aura Leisure and Libraries, Cambrian Aquatics a Chanolfan Hamdden Treffynnon. Yn gryno, mae 24 o fentrau cymdeithasol neu sefydliadau cymdeithasol sy’n gweithredu o fewn Sir y Fflint dros y flwyddyn ddiwethaf wedi elwa o gymorth y Cyngor i helpu i’w datblygu, gan gynnwys y canlynol: Amser Babi Cymraeg, RainbowBiz, West Flintshire Community Enterprises, Flintshire Counselling CIC a Beyond the Boundaries CIC. Drwyr gwaith hwn, ynghyd â rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol, mae llawer o asedau wedi’u trosglwyddo i fentrau cymdeithasol neu sefydliadau cymunedol, gan gynnwys: Pwll Nofio Cei Connah (Cambrian Aquatics), Neuadd Bentref y Waun, Llyfrgell yr Hôb, Llyfrgell Treffynnon, Llyfrgell Mancot a Chanolfan Gymunedol Trelogan. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint: “Mae llawer o waith eisoes wedii wneud i dyfur sector cymdeithasol a bydd y polisi hwn yn helpu i gynyddu faint o fuddion cymunedol y gall y Cyngor eu sicrhau o gaffael ei nwyddau a’i wasanaethau. Mae angen y dull arloesol hwn er mwyn sicrhau bod mwy o fuddion cymunedol yn cael eu darparu, sy’n helpu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein cymunedau lleol.” Adolygu’r Sector Gofal Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint dderbyn adroddiad ar yr adolygiad o’r sector gofal pan mae’n cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis. Maer Cyngor yn wynebu her wirioneddol i ddarparu gwasanaethau yn nghyd-destun gofynion demograffig, amgylcheddol a chymdeithasol syn newid yn gyson ac mae angen iddo allu ymateb i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr o fewn cyllideb gyfyngedig iawn. Rhagwelir y bydd poblogaeth hyn Sir y Fflint (+80) yn cynyddu 23% dros y 4 blynedd nesaf ac y bydd nifer y bobl hyn sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol sylweddol yn cynyddu 22% yn ystod yr un cyfnod. Mae risg amlwg na fydd y sector gofal yn gallu ei gynnal ei hun os nad ydym yn gweithredu. Mae gan Sir y Fflint gynllun rhagweithiol ar waith a fydd yn nodi blaenoriaethau a chynlluniau tymor byr, canolig a hir i helpu i fynd i’r afael â rhai or materion brys. Mae darparwyr gofal cymdeithasol Sir y Fflint, fel darparwyr drwy’r wlad, yn wynebu pwysau ac yn poeni am gynaliadwyedd eu busnesau. Rhwng mis Mehefin a mis Medi, fe gomisiynodd Sir y Fflint adolygiad annibynnol o’r sector gofal preswyl a gofal nyrsio yn y sir. Yn arwyddocaol, roedd y canlyniadau’n dangos bod y pwysau mwyaf yn ymwneud â recriwtio a chadw staff a phrynu defnyddiau traul, cyfleustodau, cyfarpar a gwasanaethau gwastraff. Roedd yr adolygiad yn nodi ffyrdd arloesol o gefnogi’r sector, gan gynnwys datblygu porth” a fydd yn gweithio fel canolbwynt marcio a recriwtio lleol. Hefyd, gan weithio gydar Tîm Datblygu Busnes, mae cyfleoedd am wasanaethau micro-ofal yn cael eu hystyried. Mae’r rhain yn rhoi hyblygrwydd ac yn gweithredu ar raddfa fach, gan gyflogi llai na 5 o bobl, fel arfer, ac yn canolbwyntio ar grwp bach o gleientiaid. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r adroddiad hwn yn egluro bod Sir y Fflint yn arwain y ffordd yn genedlaethol wrth weithio’n gadarnhaol mewn partneriaeth gydan darparwyr gofal ac ystyried pob posibilrwydd i wella dyfodol hirdymor gofal cymdeithasol yn ein sir. Mae llythyr wedi’i lunio iw anfon gyda’r adroddiad, sy’n amlinellu ein hachos i Lywodraeth Cymru am fwy o gyllid, mynediad at adnoddau a chydnabyddiaeth lawn o anghenion y sector gofal cymdeithasol.”