Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Plannu Cennin Pedr

Published: 24/10/2017

Ymunodd disgyblion o Ysgol Maes Y Felin â Cheidwaid Cefn Gwlad Sir y Fflint ym Mharc Treftadaeth Maes Glas yn ddiweddar i helpu i blannu bylbiau cennin Pedr. Meddai Karen Rippin, parcmon Sir y Fflint yn Nyffryn Maes Glas: “Bu’r disgyblion 6 a 7 oed yn helpu i blannu ychydig dros 1,000 o fylbiau ar hyd y llwybrau sy’n arwain i’r parc gwledig ac edrych ar bryfed a phryfaid genwair ar hyd y ffordd.” Dywedwyd wrth y disgyblion am gylch oes planhigion a beth sydd ei angen arnynt i dyfu. Gwnaethant ddysgu nad yw pob bwlb cennin Pedr yn felyn, ond byddai’r bylbiau roeddent yn eu plannu yn blodeuo yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf a byddai eu blodau melyn llachar yn denu ymwelwyr i’r parc. Dywedodd Mrs. Martin, athrawes yn Ysgol Maes Y Felin: “Roedd y plant wrth eu bodd yn helpu i blannu’r bylbiau ac rydym yn bwriadu dod yn ôl yn y gwanwyn i weld y cennin Pedr a chael picnic.”