Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Noson Guto Ffowc!

Published: 24/10/2017

Mae Archifdy Sir y Fflint yn gwahodd teithwyr amser ifanc i gofrestru ar gyfer digwyddiad ar thema Noson Tân Gwyllt yr hanner tymor yma. Bydd digwyddiad y Teithwyr Amser Ifanc yn cael ei gynnal fore Mercher 1 Tachwedd am 10.30am yn yr Archifdy ym Mhenarlâg. Gall babanod a phlant hyd at 7 oed ddod draw gyda’u rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid i gael hwyl yn dysgu am hanes trwy luniau, storïau, crefftau a cherddoriaeth. Bydd y sesiwn yn para awr ac maer cyfan am ddim. Mae archebu lle’n hanfodol, felly peidiwch ag oedi! I archebu lle, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at archives@flintshire.gov.ukneu ffoniwch 01244 532364.