Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymweliad Ysgol Owen Jones

Published: 14/07/2014

Mae disgyblion ac athrawon o Ysgol Owen Jones yn Llaneurgain wedi bod ar ymweliad â Neuadd y Sir yr Wyddgrug. Ar 24 Mehefin, cafodd y disgyblion eu tywys ar daith o amgylch Siambr y Cyngor a chawsant wybod sut maer Cyngor yn gweithio. Aethant i weld Cadeirydd newydd y Cyngor, y Cynghorydd Glenys Diskin a chawsant dystysgrifau i nodi eu hymweliad. Mynychodd athrawon a rhieni-lywodraethwyr yr ysgol hefyd. Llun: Llywodraethwyr, athrawon a phlant o Ysgol Owen Jones gyda Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin.