Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad Cyngor Sir Y Fflint ar Gyllideb 2018/19

Published: 24/10/2017

Ers y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn dweud yn gyhoeddus nad yw safler gyllideb yn gynaliadwy a bod gwasanaethau lleol o dan fygythiad difrifol. Drwy gyfuniad o fod yn ddyfeisgar wrth drefnu ein hunain a’n gwasanaethau i arbed arian, gwneud y gorau on hadnoddau a chael cefnogaeth wych gan ein cymunedau wrth groesawu newid ac ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau drostyn nhw eu hunain - er enghraifft drwy drosglwyddiadau asedau cymunedol, rydyn ni wedi dod drwyddi. Efallai mai 2018/19 fydd y flwyddyn i her y gyllideb fod yn rhy fawr. Rydym yn wynebu toriad yn ein grant Llywodraeth Cymru a does gennym ni ddim diogelwch yn erbyn costau chwyddiant a’r galw cynyddol am wasanaethau megis gofal cymdeithasol. Rydym yn wynebu bwlch yn y gyllideb o tua £13-14M. Dyma ganlyniad cyflawni effeithlonrwydd llwyddiannus yn y gyllideb o tua £80M dros y degawd diwethaf. Mae’n afresymol rhoi cynghorau yn y sefyllfa hon. Mae gan lywodraethau gyfrifoldeb i ariannu cynghorau’n gywir er mwyn darparu gwasanaethau lleol i ddiwallu anghenion a hawliau cymunedau a dinasyddion. Mae pob cyngor ar draws y sir yn wynebu heriau mawr yn y gyllideb. Rydym wedi gwneud achos cryf, fel cyngor a gaiff ei ariannun isel yng Nghymru, bod Sir Y Fflint yn benodol o agored i effeithiau toriadau gwariant cyhoeddus o un flwyddyn ir llall. Mae gennym gefnogaeth leol ar gyfer yr achos hwn. Rydyn ni wrthi’n cwblhau cam cyntaf cynllun ein cyllideb ar gyfer 2018/19, gyda £3M o arbedion wedi’u nodi. Rydym bellach yn gweithio ar yr ail gam. Maen rhaid i ni ystyried cynnig dim ond cyllideb arian gwastad’ i ysgolion, heb unrhyw gyllid ychwanegol iddyn nhw fodloni eu costau chwyddiant eu hunain, cyfyngu ar fynediad at rai gwasanaethau, codi rhywfaint o daliadau gwasanaeth, ac o bosib y cynnydd blynyddol mwyaf i Dreth y Cyngor yn Sir Y Fflint am rai blynyddoedd. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, ac oni fydd polisi’r Llywodraeth yn newid, nid dyma fydd ei diwedd hi, oherwydd bydd bwlch yn y gyllideb i’w chau o hyd. Gallai trydydd cam a cham olaf y gyllideb, yn y Flwyddyn Newydd, olygu bod cyfleusterau a gwasanaethau lleol yn cau. Dyma lefel y bygythiad rydyn nin ei wynebu. Eto, rydyn ni’n galw ar Llywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ym maes gofal cymdeithasol ac ysgolion yng Nghymru, i wella Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol, i roi rhyddid lleol i gynghorau adfer costau drwy godi tâl, er enghraifft ym maes gofal cartref, ac i ddychwelyd cyfran or Lwfans Treth Prentisiaid ar gyfer cynghorau fel cyflogwyr i ariannu eu cynlluniau prentisiaeth eu hunain. Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol, cymuned o gynghorau lleol ar draws Cymru a Lloegr, yr Undebau Llafur cydnabyddedig, gweithlu Llywodraeth Leol, a’r grwpiau buddiant niferus sy’n gofalu am wasanaethau cyhoeddus – i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei bolisi o gynildeb a rhoi digon o gyllid ir Llywodraeth Leol – i achub y dydd.