Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy

Published: 01/11/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru sy’n tynnu sylw at lwyddiannau Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy. Ers 2012, mae £29m wedi’i wario i greu neu ddiogelu dros 6,000 o swyddi yn yr ardal ac mae mwy na 243 o fusnesau wedi elwa o gymorth gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Mae hyn yn newyddion gwych i Sir y Fflint a Glannau Dyfrdwy, yn enwedig. Llwyddwyd i sicrhau a diogelu’r swyddi lleol hyn drwy bartneriaeth waith gref rhwng Cyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Cynghori Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy – cyflawniad aruthrol.” Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint ac Aelod o’r Bwrdd Cynghori, Colin Everett: “Mae cyfran yr ymholiadau busnes sy’n trosi i fuddsoddiadau yn parhau i aros yn uchel, gan ddangos bod Sir y Fflint yn lle gwych i wneud busnes. Yn ychwanegol at hyn, mae cymorth ariannol uniongyrchol o dros £300,000 i fusnesau yng Nglannau Dyfrdwy wedi’i ddarparu i gefnogi anghenion datblygu’r gweithlu.” Mae’r Ardal Fenter yn cynnig anogaethau penodol i ddenu busnesau newydd i Gymru gan ddefnyddio datrysiad penodol ar gyfer y wlad, gyda nod o wella’i heconomi a chreu swyddi a chyfleoedd. Mae Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy yn canolbwyntio ar y sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch ac mae wedi croesawu buddsoddiadau newydd o bob cwr o’r DU, Iwerddon, UDA a Japan ac estyniadau i fusnesau presennol, yn cynnwys Triumph Group, DRB Engineering, Kriega, Hannerman a James Fisher.