Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Rhuban Gwyn yn cyrraedd mwy o ddynion nag erioed

Published: 01/11/2017

Ar 25 Tachwedd bydd mwy o ddynion nag erioed yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ymarferol, yn codi ymwybyddiaeth ac yn mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i geisio rhoi terfyn ar drais yn erbyn merched a genethod. Mi fydd yna gannoedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar 25 Tachwedd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, a bydd dynion yn cael eu hannog i dynnu lluniau o’u hunain yn gwisgo rhuban gwyn, gan addo i beidio byth â chyflawni, cydoddef ac aros yn dawel am drais yn erbyn merched. Yn lleol bydd aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint a sefydliadau partner yn dod at ei gilydd i arddangos eu cefnogaeth yn ystod nifer o weithgareddau codi ymwybyddiaeth. Ddydd Iau, 23 Tachwedd, am 11am bydd Coleg Cambria yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ac yn dosbarthu rhubanau gwyn i staff a myfyrwyr yng Nglannau Dyfrdwy. Ddydd Gwener, 24 Tachwedd, am 11am bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn arddangos eu cefnogaeth drwy wahodd asiantaethau partner i’w depo yng Nglannau Dyfrdwy ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Byddan nhw hefyd y tu allan i lyfrgell Cei Connah yn eu bws addysg yn ceisio annog aelodau o’r cyhoedd i ymuno â’r ymgyrch. Bydd OWL Cymru unwaith eto yn ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned amaethyddol ym marchnad yr Wyddgrug. Mae radio cymunedau Dyfrdwy wedi cynnig hyrwyddo’r ymgyrch ac rydym ni’n ffodus iawn hefyd o dderbyn cefnogaeth timau rygbi a phêl-droed lleol. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Llysgennad yr Ymgyrch Rhuban Gwyn yn Sir y Fflint: “Dyma amser i addo’ch cefnogaeth ac estyn allan i gymunedau ac unigolion newydd. Mae’r rhan fwyaf o ddynion yn llwyr wrthwynebu trais yn erbyn merched ac fel cymdeithas mae gennym ni lawer iw ennill o hyd o ran cydraddoldeb rhywiol a pherthnasoedd iachach. Nid yw ymgyrchu i roi terfyn ar drais yn erbyn merched yn fater i ferched yn unig. Fel unrhyw agwedd arall ar gydraddoldeb rhywiol, mae’n rhaid i ddynion fod yn rhan o’r ateb ochr yn ochr â merched, gan greu diwylliant lle mae trais, camdriniaeth ac aflonyddwch gan ddynion yn erbyn merched yn hollol annerbyniol.”