Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan ddydd newydd i oedolion yn Queensferry

Published: 03/11/2017

Er gwaethaf yr heriau ariannol sy’n wynebu Sir y Fflint, mae’r Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn ei raglen gyfalaf sy’n cefnogi seilwaith, asedau ac adeiladau yn bennaf. Mae cyfanswm o £4 miliwn wedi ei ddyrannu ar gyfer adeiladu cyfleuster gwasanaethau dydd newydd sbon ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu, a fydd yn cymryd lle canolfan Glanrafon yn Queensferry. Maer buddsoddiad hwn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gofal dydd. Meddai’r Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Cyllid: “Er yr her ariannol fawr y mae’r Cyngor yn ei hwynebu, rydym ni wedi llunio rhaglen gyfalaf glir ac uchelgeisiol ac mae’r £4 miliwn yma’n dangos ymrwymiad y Cyngor i ddarparu buddsoddiad sydd wir ei angen yn y gwasanaeth pwysig a gwerthfawr hwn. Bydd y cyfleuster newydd yn cymryd lle’r ganolfan ddydd bresennol sydd wedi gweld dyddiau gwell ac yn adeilad aneffeithiol. Bydd yr adeilad newydd yn fodern iawn, ac mae’r dyluniadau wedi eu creu yn defnyddio mewnbwn defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd, a’n staff. Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Rydym ni’n falch iawn o allu cyhoeddi dechrau’r prosiect hwn. Mae safle arfaethedig yr adeilad newydd yn hygyrch a chyfleus, ac rydym nin gobeithio, yn dibynnu ar ganiatâd cynllunio, dechrau’r gwaith adeiladu yn y gwanwyn ac agor y drysau’n swyddogol ddechrau 2019.”