Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Is-etholiad Mostyn

Published: 09/07/2014

Caiff is-etholiad Mostyn ei chynnal ddydd Iau 1 Gorffennaf ac mae rhestr o’r ymgeiswyr i’w gweld yn awr ar wefan y Cyngor. Os na fyddwch yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio leol ar 31 Gorffennaf, mae ffyrdd eraill o bleidleisio. Cewch bleidleisio drwy’r post os gwnewch gais erbyn 5pm dydd Mercher 16 Gorffennaf. Caiff y rhain eu hanfon drwy’r post dosbarth cyntaf ar 17 Gorffennaf. Os na wnewch gais am bleidlais drwy’r post erbyn y dyddiad hwn, gallwch ofyn i rywun arall bleidleisio ar eich rhan, sef pleidleisio drwy ddirprwy. Rhaid gwneud cais i wneud hyn erbyn 5pm dydd Mercher 23 Gorffennaf. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, gallwch gysylltu â thîm Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor ar 01352 702412.