Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Diogelu Cenedlaethol

Published: 13/11/2017

‘Mae diogelu yn fusnes i bawb’ ydir brif neges i bob un o breswylwyr Cymru wrth i Fyrddau Diogelu ledled Cymru, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, baratoi i lansio Wythnos Diogelu Cenedlaethol yr wythnos nesaf (rhwng dydd Llun 13 Tachwedd a dydd Gwener 17 Tachwedd). Gan weithio gyda phartneriaid o’r maes iechyd, y gwasanaethau brys, y trydydd sector ac eraill, mae’r Byrddau yn bwriadu codi ymwybyddiaeth pawb o beth mae diogelu yn ei olygu a’r llu o sefyllfaoedd y gall fod yn berthnasol. Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a sicrhau eu lles. Mae sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn a hapus yn rhan bwysig o ddiogelu hefyd. Bydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod Wythnos Diogelu, ac fe anogir aelodau o’r cyhoedd a gweithwyr diogelu proffesiynol i fynychu. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi’r fenter ac yn cynnal ystod eang o sesiynau gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant ar draws y sir, gan gynnwys lansio ei Bolisi Diogelu, sesiynau hyfforddi a negeseuon dyddiol mewn ysgolion a fydd yn cynnwys gwybodaeth am gam-fanteisio’n rhywiol ar blant a chaethwasiaeth fodern, yn ogystal â chyflwyniadau i staff y cyngor am ddiogelu. Fe fydd yna arddangosfeydd gwybodaeth mewn lleoliadau ar draws Sir y Fflint ac rydym ni’n gofyn i’n gweithwyr wisgo bathodynnau i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer yr wythnos ddiogelu. Dywedodd y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin, Cefnogwyr Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Cyngor wedi cytuno ar Bolisi Diogelu Corfforaethol newydd yn ddiweddar sydd yn darparu fframwaith i bob un on gweithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr i ddiogelu plant ac oedolion. “Rydym ni’n llwyr gefnogol o’r Wythnos Ddiogelu a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu sydd yn cynnwys cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, priodas dan orfod, masnachu mewn pobl a throseddau rhywiol difrifol. Mae’n bwysig bod gan bob un ohonom ni fwy o ymwybyddiaeth o’r materion a’n bod yn amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Ein prif neges yr wythnos hon ydi “Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb” – mae’n rhaid i bob un ohonom allu adnabod yr arwyddion a bod yn ymwybodol o sut i roi gwybod amdanyn. I gael gwybod mwy am ddiogelu ac i gael manylion llawn o’r digwyddiadau ar draws gogledd Cymru, ewch i: www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru.