Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Teithio Cymunedol Penyffordd - Bwcle

Published: 14/11/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Cymuned Penyffordd a Chyngor Tref Bwcle ac yn ddiweddar dathlwyd fod gwasanaeth teithio cymunedol newydd cynaliadwy wedi ei gyflwyno ar gyfer yr ardal. Dechreuodd y gwasanaeth Bws Tacsi ar 30 Hydref 2017 ac mae’n gweithredu gyda llwybr ac amserlen sefydlog sy’n galluogi trigolion o ardaloedd Penyffordd, Penymynydd, Little Mountain a Bwcle i gael mynediad a chysylltu â gwasanaethau allweddol yng Nghanol Tref Bwcle. Y cynllun hwn yw’r diweddaraf yn y fenter Teithio Cymunedol a ddatblygwyd gyda Chynghorau Cymuned a Thref yn Higher Kinnerton, Northop Hall a Chei Connah. Mae’r gwasanaeth Rhannu Tacsi yn wasanaeth “ffonio a theithio” ar gyfer pobl sy’n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol yn yr ardal. Bydd y gwasanaeth Rhannu Tacsi yn galluogi pobl i fynd i apwyntiadau iechyd/meddygol. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae mynediad i wasanaethau allweddol yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl ddiamddiffyn mewn cymunedau gwledig yn cael eu cau allan. Maer Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i gymunedau gwledig drwy gyflwynor cynlluniau yma a rwan tror cymunedau yw hi i ddangos eu hymrwymiad drwy ddefnyddio’r gwasanaeth lle bynnag y bo modd i sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy i’r dyfodol. Mae’n dod yn angen brys gan fod y toriadau llymder diweddaraf wedi eu cyhoeddi a fydd yn effeithio ar allu Cyngor Sir y Fflint i barhau â chymorthdaliadau bws.” Mae paratoadau ar gyfer cynlluniau tebyg wedi bod ar y gweill ers tro mewn rhannau eraill o’r Sir, ac mae cymunedau Treuddyn, Llanfynydd a Threffynnon i gyd yn gweithio gyda’r Cyngor i ddatblygu rhagor o gynlluniau teithio cymunedol. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau peilot, ewch i: http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Community-Transport-in-Flin tshire.aspx neu ffoniwch 01352 701234.