Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith ffordd ym mis Rhagfyr

Published: 10/11/2017

Oherwydd y cynnydd mewn traffig mewn canol trefi ar cyffiniau dros gyfnod y Nadolig, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cyfyngu ar y gwaith ffordd sydd wedii drefnu ar lwybrau strategol ym mis Rhagfyr. Bydd y gwaharddiad yn cwmpasu’r prif ffyrdd yn Sir y Fflint ac, yn benodol, llwybrau mawr i mewn i ganol trefi. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Rydym wedi bod yn gweithion agos gyda hyrwyddwyr gwaith er mwyn sicrhau y caiff prosiectau mawr eu cwblhau neu eu gohirio erbyn 1 Rhagfyr. Hoffem ddiolch i’r cwmnïau cyfleustodau am eu cydweithrediad. Yn ystod y cyfnod prysur hwn, mae’n bwysig ceisio lleihau amhariad i’n rhwydwaith a chefnogi busnesau a masnachwyr lleol. Bydd y gwaharddiad yn dechrau ar 2 Rhagfyr ac yn rhedeg tan 2 Ionawr, gan leihau tagfeydd ar ein ffyrdd drwy gydol cyfnod y Nadolig.”