Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad SHARP

Published: 13/11/2017

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn derbyn adroddiad ar gynnydd y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn. Nod yr adroddiad yw darparu manylion cynlluniau unigol sydd ar waith neun cael eu hystyried fel rhan or rhaglen. Mae’r rhaglen yn cael ei darparu fesul cam. Mae cam un yn cynnwys Custom House yng Nghei Connah, lle codwyd 12 ty cyngor newydd y llynedd. Mae gwaith adeiladu 92 ty arall yn The Walks yn y Fflint yn mynd rhagddon dda. Mae cam dau yn darparu 49 ty cyngor newydd yn: · Red Hall, Cei Connah (a gwblhawyd fis Hydref) · Safleoedd garejis ym Maes y Meillion a Heol y Goron, Coed-Llai (bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ddechrau 2018) · Safle Ysgol Delyn, yr Wyddgrug (a fydd yn barod fis Mawrth 2018) · Safle hufenfa, Cei Connah (bydd y gwaith yn dechrau fis Ionawr 2018) · Hen Ganolfan Melrose, Aston (bydd y gwaith yn dechrau fis Rhagfyr 2017) Mae cam tri yn cynnwys y safleoedd posibl canlynol sydd ar gamau datblygu gwahanol, ac mae’n cynnwys cymysgedd o dai cyngor, tai fforddiadwy a chynlluniau rhannu ecwiti: · Maes Gwern, yr Wyddgrug (cais cynllunio wedi ei gymeradwyo) · Ffordd Hiraethog a Ffordd Pandarus, Mostyn · Llys Dewi, Penyffordd (Treffynnon) · Borough Grove, y Fflint · Hen Ddepo’r Cyngor, Dobshill · Nant y Gro, Gronant · Hen Ddepo Canton, Bagillt · Llys Alun, Rhyd-y-mwyn · Tir ar Rhodfa Sealand, Garden City Gall y safleoedd hyn ddarparu 233 o dai ychwanegol, gan ddod â’r cyfanswm tai i 386. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Rwyf yn falch iawn o’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth ddarparu SHARP. Wrth i’r galw am dai cymdeithasol a thai fforddiadwy yn ein cymunedau barhau i gynyddu, mae’n rhaid i ni gynnal momentwm ein cynlluniau uchelgeisiol i gwrdd â’r galw hwnnw. Rydym ni’n parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i godi cap Sir y Fflint ar fenthyca er mwyn i ni adeiladu mwy a diwallu anghenion lleol. “Mae’r safleoedd newydd hyn yng nghanol ein cymunedau ac maent yn gallu darparu rhagor o eiddo o ansawdd uchel, helpu i gynnal y cymunedau hynny a chreu cyfleoedd gwaith.”