Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwygio Lles

Published: 14/11/2017

Erbyn 2020, bydd diwygiadau lles Llywodraeth y DU wedi lleihau gwariant ar y budd-daliadau nawdd cymdeithasol sydd ar gael i aelwydydd incwm isel oedran gwaith o tua £31 biliwn y flwyddyn. Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyngor Sir y Fflint nodi adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar effeithiau ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill ar drigolion mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint a’r gwaith sy’n mynd yn ei flaen i liniaru a chefnogi’r aelwydydd hyn. Mae diwygiadau lles yn dal i gael effaith fawr ar nifer o aelwydydd ac mae Sir y Fflint yn cyflwyno rhaglen weithredu ragweithiol i dargedu cefnogaeth at yr aelwydydd hyn er mwyn helpu lliniaru’r effeithiau a hefyd i helpu aelwydydd i baratoi rwan am newidiadau yn y dyfodol. O hydref 2016, maer uchafswm budd-daliadau wedi ei ostwng yn sylweddol. Erbyn mis Medi eleni, effeithiwyd ar 111 o aelwydydd Sir y Fflint gan hyn, sy’n gyfystyr â cholli £12,300 o incwm yr wythnos – mae hyn yn bron i £640,000 y flwyddyn. Darparwyd cymorth i gwsmeriaid o ran atgyfeiriadau i gwmnïau tanwydd a gwasanaethau i gael mynediad at dariffau cymdeithasol a gwasanaethau cynnal, i hyrwyddo Taliadau Dewisol Tai yn rhagweithiol a chynorthwyo wrth ddelio a dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth. Cyflwynwyd ‘Gwasanaeth Llawn’ Credyd Cynhwysol (CC) yn yr Wyddgrug, Shotton a’r Fflint yn gynharach eleni. Ddiwedd Medi, llwyth achosion hawliadau CC yw 2,356. Yn Sir y Fflint rydym yn profi, o lygad y ffynnon, nifer sylweddol o heriau a phroblemau gyda chyflwynor Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol. Yn rhannol oherwydd y newid mawr y mae’n rhaid i’r rhai sy’n hawlio ymdopi ag o, ac yn rhannol am fod y prosesau CC yn dal i gael eu datblygu fel rhan o ymagwedd “profi a dysgu” Llywodraeth y DU tuag at ei gyflwyno. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint: “Mae ymateb y Cyngor i weithrediad Credyd Cynhwysol wedi ei ystyried yn fodel o arferion da gan Awdurdodau Lleol eraill Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn deyrnged i’n swyddogion Cysylltu sydd wedi darparu cefnogaeth ddigidol i dros 1,000 o gwsmeriaid, gan eu helpu i wneud hawliad newydd am CC a rheoli eu cais ar-lein am Gredyd Cynhwysol.” Rhai o’r meysydd eraill a effeithiwyd arnynt gan ddiwygiadau lles, ac yn cael effaith negyddol ar drigolion diamddiffyn yw: · Cymhorthdal ystafell sbâr (a elwir hefyd yn “dreth ystafell wely”); · Casgliadau rhent – problemau wrth drosglwyddo o fudd-dal tai i CC; · Gwasanaethau Digartrefedd – roedd budd-dal tai yn arfer talu rhai o’r costau a wynebwyd gan yr Awdurdod Lleol wrth roi unigolyn neu deulu mewn llety brys tymor byr. Nid yw Credyd Cynhwysol yn cynnwys darpariaeth o’r fath. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Tai: “Mae Sir y Fflint ar flaen y gad ac wedi bod yn arloesol wrth weithio i ddarparu cefnogaeth ac atebion i helpu ein trigolion mwyaf diamddiffyn. Ers mis Ebrill 2017, darparwyd Cymorth Gosod Cyllideb Bersonol gan ein Tîm Ymateb i Ddiwygio Lles.” Mae achosion Cymorth Gosod Cyllideb Bersonol eisoes wedi amlygu materion fel benthycwyr diwrnod cyflog yn cael mynediad uniongyrchol i gyfrif banc cwsmer fel eu bod yn cael mynediad i’r cyfrif pan fod y CC misol yn cael ei dalu ac yn gadael y cwsmer heb ddigon o arian i fyw arno.