Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Addasu cartrefi

Published: 14/04/2014

Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth (15 Ebrill) disgwylir i’r Cabinet gymeradwyo polisi i newid y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud i addasu cartrefi ar gyfer tenantiaid hyn ac anabl y Cyngor. Cynlluniwyd y polisi newydd ar gyfer tenantiaid sy’n byw mewn tai i deuluoedd neu fflat llawr uchaf, ac ystyrir pob achos yn unigol. Caiff rhai tenantiaid eu hadleoli a phenderfynir addasu cartrefi eraill. Nod y Cyngor yw creu cydbwysedd rhwng anghenion pob tenant a sicrhau bod ei stoc tai a’i adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol. Cytunwyd eisoes i wella’r amserlenni ar gyfer addasu cartrefi ac mae’r rhan fwyaf o’r gwaith y bydd y Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd yn ymwneud â gosod cawodydd hygyrch a lifftiau grisiau. Ar ôl cwblhau’r newidiadau hyn, mae’n anodd wedyn gosod yr eiddo i deuluoedd ifanc heb ddad-wneud y gwaith. Os nad yw tenantiaid yn dymuno symud o’u cartref, gallant apelio yn erbyn y polisi a chaiff arian o Gynllun Cymell Tenantiaid ei ddefnyddio i helpu gyda’r gost o symud cartref. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai: “Bydd y polisi newydd yn llywio penderfyniadau’n ymwneud â gwaith addasu mawr yng nghartrefi teuluol Cyngor Sir y Fflint a fflatiau llawr uchaf, a’i nod yw cael hyd i’r llety mwyaf addas ar gyfer ein tenantiaid. “Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn gwario £1 miliwn y flwyddyn yn addasu cartrefi. Mae’n costio rhwng £3,000 a £6,000 i osod lifft grisiau a thua £4,500 i osod cawod hygyrch. Bydd y polisi’n helpu i ymdopi â nifer gynyddol y ceisiadau a ddaw i law i addasu stoc tai’r Cyngor.”