Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archifdy Sir y Fflint yn dathlur Nadolig

Published: 22/11/2017

Mae Archifdy Sir y Fflint wedi cynhyrchu cyfres o Gardiau Nadolig i nodi Nadolig olaf canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r lluniau wedi’u sganio o gardiau gwreiddiol a ddaeth i’r Archifdy yn 2016, fel rhan o gasgliad mwy o gofnodion y teulu Davies/Lambert ac maent yn cynnwys darluniau brodwaith ar ffurf cerdyn post. Defnyddiwyd y math hwn o gerdyn yn aml gan filwyr er mwyn anfon negeseuon yn ôl adref, ac roedd y brodwaith yn cael ei greu gan fenywod o Wlad Belg fel ffordd o wneud ychydig o arian, ac yn nes ymlaen, wrth ir cardiau ddod yn fwy poblogaidd, cawsant eu cynhyrchu ar lefel ddiwydiannol. Anfonwyd y cardiau gan y Preifat Howell Davies, 2il Fataliwn, y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol at ei ddarpar wraig Margaret May tra oedd yn gwasanaethu yn Ffrainc. Goroesodd y rhyfel a setlodd gyda May yng Nghei Connah. Dywedodd ei wyres, Mrs Lambert: “Rydym yn falch iawn fod yr Archifdy wedi dewis selio eu cardiau Nadolig ar y darluniau hyn. Mae’n eithaf emosiynol eu gweld wedi eu hargraffu ac yn cael eu prynu a’u hanfon at gymaint o bobl, maen cadwr canmlwyddiant yn fyw ac yn gwneud i ni gyd sylweddolir aberth fawr y gwnaeth pobl fel fy nhaid i gadwr wlad hon yn ddiogel. Dywedodd y Prif Archifydd, Claire Harrington: “Am y pedair blynedd diwethaf, mae’r Archifdy wedi cynhyrchu cerdyn Nadolig i’w werthu i’r cyhoedd. Rydym bob amser yn ceisio dewis thema sy’n berthnasol i’r amser ac roedd hyn yn ymddangos fel ffordd ddelfrydol o nodi Nadolig olaf canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn gwerthfawrogi’r ystyr y tu ôl i’r cardiau ac rydym yn ddiolchgar i’r teulu Davies/Lambert am ein caniatáu i ddefnyddior darluniau. Mae casgliad mawr o ddogfennau’n ymwneud âr Rhyfel Byd Cyntaf yn yr Archifdy, gan gynnwys Mynegai Cerdyn Cofio sydd bron yn gyflawn o bob milwr fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, pa un ai wnaethant oroesi neu farw. Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Rwy’n falch fod yr Archifdy wedi dewis anrhydeddur bobl wnaeth wasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf drwy gynhyrchu’r cardiau Nadolig hyn. Mae’n ein hatgoffa o’r aberth fawr a wnaed gan y rheini fu’n gwasanaethu fel y gallwn fwynhau ein rhyddid heddiw.” Bydd y cardiau yn cael eu gwerthu mewn cyfresi o 6 (2 o bob dyluniad) a byddant yn costio £3. Gellir eu prynu yn yr Archifdy ym Mhenarlâg, y siop yn Theatr Clwyd ar Swyddfa Bost ym Mhenarlâg. Gallwn gymryd taliad dros y ffôn hefyd, a’u postio i chi wedyn am ffi bostio fechan. Cysylltwch â’r Archifdy ar 01244 532364.