Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint – eich cyfle i ddweud eich dweud

Published: 04/12/2017

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint (BGC) yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ei Gynllun Lles Drafft. Mae llunio Cynllun Lles yn un o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a rhaid cyhoeddi’r Cynllun erbyn Mai 2018. Nod y Cynllun Lles yw amlinellu sut y gall gwaith y bartneriaeth ddiogelu a gwella ansawdd bywyd trigolion, cymunedau a busnesau rwan ac yn y dyfodol. Mae’r BGC yn bartneriaeth o 4 corff cyhoeddus sy’n gweithio gyda’i gilydd sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn ogystal â sefydliadau lleol eraill. Mae pum blaenoriaeth yn y Cynllun Drafft a chawsant eu dewis oherwydd mai yn y meysydd hyn y teimla’r BGC y gellir ychwanegu’r mwyaf o werth, sef: · Lles a Byw’n Annibynnol · Diogelwch Cymunedol · Cymunedau Hydwyth · Economi a Sgiliau · Yr Amgylchedd Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o waith partneriaeth ac mae blaenoriaethau’r BGC yn cysylltu’n dda â Chynllun y Cyngor. Mae’r Cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethau, yn gwbl gywir, yn disgwyl i bartneriaid cyhoeddus a thrydydd parti weithio gyda’i gilydd, rhannu blaenoriaethau, a thrwy gyd-ymdrechu, sicrhau fod pethau’n cael eu gwneud. Er mwyn gofalu ein bod yn gwneud pethau’n iawn, rwy’n croesawu eich adborth ac yn eich annog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y blaenoriaethau hyn a sut i roi eich adborth ar wefan Cyngor Sir y Fflint drwy http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-and-Democracy/PSB-Draft-Well-be ing-Plan-Public-Consultation.aspx. Gallwch hefyd gysylltu â’ch canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu leol neu’r Llyfrgell can y byddant yn gallu rhoi copi papur i chi ei lenwi. Mae’r ymgynghoriad hefyd ar gael mewn fformatau eraill drwy ffonio 01352 702154. Mae gennych hyd 2 Chwefror i gyfrannu a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn yn fawr iawn.