Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant
Published: 15/07/2014
Gallair ystod o ofal plant sydd ar gael yn Sir y Fflint gael ei lledu unwaith
y bydd cynghorwyr wedi ystyried adroddiad asesu mewn cyfarfod or Cabinet ddydd
Mawrth (15 Gorffennaf).
Mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gyfrifol am sicrhau bod digon o ofal plant
priodol ar gael i fodloni gofynion rhieni sydd angen gofal plant er mwyn
hyfforddi, gweithio, neu baratoi ar gyfer gwaith.
Maer Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant ar adroddiad Archwilio yn arfarniad
parhaus i mewn ir gwasanaethau presennol sy’n hygyrch i rieni a gofalwyr yn
Sir y Fflint. Mae gwybodaeth wedi ei derbyn gan rieni a gofalwyr, darparwyr
gofal plant, plant, pobl ifanc a chyflogwyr trwy arolwg electronig, ymgynghori
wyneb-yn-wyneb a defnyddio adborth gan bobl syn cael cymorth gyda chostau
gofal plant.
Maer asesiad yn dangos bod y farchnad gofal plant yn diwallu anghenion y rhan
fwyaf o rieni syn gweithio yn y Sir. Mae 50 y cant o rieni yn Sir y Fflint yn
defnyddio gofal plant ffurfiol ac yn gyffredinol, dywedodd 92 y cant o rieni a
holwyd eu bod yn fodlon â’u trefniadau gofal plant presennol.
Lle maer arolwg wedi nodi bylchau yn y gwasanaeth, bydd yr awdurdod yn dechrau
mynd ir afael ag unrhyw faterion i gwrdd â gofynion rhieni syn gweithio a
hefyd i oresgyn y rhwystrau i waith neu hyfforddiant y mae diffyg gofal plant
yn eu creu ar gyfer teuluoedd nad ydynt yn gweithio.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Maer adroddiad yn edrych yn fanwl ar y ddarpariaeth gofal plant yn Sir y
Fflint, rhywbeth sy’n achosi pryder i bob rhiant neu ofalwr syn gweithio yn yr
ardal. Y rhai mwyaf bodlon oedd rhieni syn defnyddio gwarchodwyr plant,
meithrinfeydd dydd a chlybiau y tu allan i’r ysgol ller oedd bodlonrwydd o
dros 90%.
“Maer Cyngor wedi ymrwymo i roi mynediad cyfartal i bawb i ddarpariaeth gofal
plant a rhan or arolwg hwn oedd gweld a yw ein gwasanaethau yn diwallu
anghenion rhieni. Unwaith y byddwn wedi edrych yn fanwl ar yr adroddiad
archwilio gallwn asesu a oes angen dechrau cynnig gwasanaethau ychwanegol.