Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llyffantod cefnfelyn yn ffynnu diolch i weithio mewn partneriaeth

Published: 11/12/2017

Yn ddiweddar bu Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn gweithio gyda Network Rail er mwyn gwneud gwaith amgylcheddol pwysig. Treuliodd tîm o oddeutu 15 o wirfoddolwyr o Network Rail au prif gontractwr ar Gynllun Ail Signalu Arfordir Gogledd Cymru, Siemens, ddiwrnod gydar Ceidwaid Cefn Gwlad yn clirio eithin ac yn cribinio ardal y llyffant cefnfelyn yn Bettisfield, Bagillt. Bu’r tîm yn gweithio i glirio’r ardal lle mae’r llyffant cefnfelyn wedi ei ail-gyflwyno er mwyn helpu i gynyddu eu cynefin porthi. Mae arnynt angen ardal gyda gwair byr gan eu bod yn hela drwy redeg ar ôl anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn hytrach na hopian fel llyffantod neu frogaod eraill. Mae gwaredu’r eithin hefyd yn lleihau cynefin y llyffant dafadennog, cystadleuydd uniongyrchol y llyffant cefnfelyn – yr amffibiad prinaf yng Nghymru. Roedd y llyffant cefnfelyn wedi diflannu o Gymru tan i’r Ymddiriedolaeth Gadwraeth Ymlusgolegol gyflwyno miloedd o benbyliaid llyffant cefnfelyn i rannau o dwyni Gronant a Talacre yn 1996. Mae’r rhaglen ail-gyflwyno yn ei thrydedd blwyddyn. Mae’r unig boblogaethau eraill o lyffantod cefnfelyn yng Nghymru iw canfod yn Nhalacre a Gronant syn golygu bod yr ail-gyflwyno yn gam pwysig o ran datblygur boblogaeth yng Nghymru. Meddai Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae gwaith partneriaeth rhwng gwirfoddolwyr, busnesau lleol ar Cyngor Sir yn ffordd amhrisiadwy o gadw ein hamgylchedd. Diolch yn fawr iawn i’r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw sydd newydd roi £2,000 i wella un or ddau bwll dwr neu “bwll bas” ar y safle ac i Network Rail sydd wedi addo £3,700 er mwyn creu trydydd pwll bas ym mis Ionawr. Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, Tim Johnson: “Cawsom ddiwrnod gwych, fu’n llwyddiant mawr. Hoffwn ddiolch i’r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw ac i Network Rail am fuddsoddi yn y rhywogaeth ac yn y safle. Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm ddaeth allan ddydd Mercher. Fe wnaeth pawb weithio yn galed iawn a gwneud cymaint o wahaniaeth. Mae’r ardal yn edrych yn well nag a wnaeth erioed.” Dywedodd Ecolegydd Signalu IP (De) Network Rail, Caitlin McCann: “Mae’n wych pan fydd cymaint o grwpiau, gyda blaenoriaethau amrywiol, yn gallu dod at ei gilydd i weithio tuag at un nod, yn yr achos yma, ychwanegiadau bioamrywiaeth ar gyfer y llyffant cefnfelyn ym Magillt. Roedd y tîm o wirfoddolwyr yn awyddus i wneud gwahaniaeth gan fod llawer ohonynt yn gweithio yn lleol ar Gynllun Ail Signalu Arfordir Gogledd Cymru ac maent wedi datblygu gwerthfawrogiad o’r amgylchedd a’r bioamrywiaeth ar a gerllaw’r rheilffordd. Roedd Tim a’i wirfoddolwyr yn gwybod cymaint am y rhywogaeth a’r mentrau bioamrywiaeth sydd ym Magillt ac mewn ardaloedd eraill ar hyd lein yr arfordir. Gadawodd pawb gan deimlo eu bod wedi cyflawni llawer!”