Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwybodaeth am ffordd ddeuol A541 Plas Teg

Published: 22/12/2017

Yn dilyn derbyn gwybodaeth ynglyn â cherbydau yn parhau i oryrru ar hyd ffordd ddeuol A541 Plas Teg tuar gorllewin, mae Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu ymgymryd â gwaith i osod nodweddion diogelwch ychwanegol. Meddai’r Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd y Cyngor: “Rydym ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra sy’n cael ei achosi cyn y Nadolig, ond mae’n bwysig ac yn angenrheidiol ein bod ni’n ddarparu mwy o nodweddion cynghorol i’r gyrwyr hynny sy’n parhau i oryrru ar y ffordd hon, ffordd sydd eisoes â chamera cyflymder. Mae’n bryderus iawn yn dilyn yr holl farwolaethau trychinebus bod gyrwyr yn parhau i oryrru a rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl.”