Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Blwyddyn Newydd, busnes newydd?

Published: 09/01/2018

Ydych chi’n entrepreneur gyda syniad busnes ond ddim yn gwybod sut i’w ddatblygu ir lefel nesaf? Mae Clwb Menter Sir y Fflint yn cynnig help a chyngor ynglyn â dechrau neu ymestyn eich busnes eich hun. Peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig, dyma oedd gan un aelod bodlon i’w ddweud: “Mae Clwb Menter yn ffordd werthfawr iawn o ymestyn eich gwybodaeth, dysgu o lwyddiant pobl eraill, denu cleientiaid newydd a dweud wrth eraill am eich busnes. “Gyda’r grwp hyfryd ac amrywiol yma o bobl cewch ddigonedd o gyfleoedd, fel mentrau ar y cyd, arweinwyr cleientiaid, partneriaethau, fforymau siarad ac ysgrifennu, gwerthiannau busnes...mae’r rhestr yn un ddiddiwedd. “Nid beth rydych chi’n ei wybod sy’n bwysig, ond pwy rydych chi’n ei adnabod” – mae hyn mor wir ar gyfer llwyddiant busnes, a thrwy gwrdd yn y Clwb Busnes gall agor drysau i bobl na fyddech fel arall yn gallu siarad â nhw wyneb yn wyneb neu hyd yn oed ddod o hyd iddynt yn hawdd. “Fe gewch chi’r cyfle i gael cyngor ymarferol am bwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac mae pobl yn fwy tebygol o feddwl amdanoch pan maent angen yr hyn rydych chi’n ei gynnig. O fewn y grwp a thrwy wthio eich hun i siarad gyda phobl mae’n rhoi rhagor o hyder i chi, a thrwy hynny rydych chi a’ch busnes yn elwa. “Yn bersonol buaswn yn cynghori unrhyw berchennog busnes i fynychu ac i ddarganfod drostynt eu hunain pa mor gadarnhaol a chalonogol y gall y ddwy awr fod. Beth sydd gennych i’w golli?” Maer clwb yn gyfle gwych i bobl gael cymorth i ddatblygu syniadau busnes newydd neu gael cefnogaeth wrth sefydlu busnes newydd. Mae’r clwb yn annog pobl mewn busnes i ddod ynghyd a rhwydweithio a chynnig gweithdai rhad ac am ddim i helpu i greu a marchnata busnesau. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Beverly Moseley, Cymunedau yn Gyntaf, ar 01244 846090.