Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar yr Un Llwybr Mynediad at Dai

Published: 15/01/2018

Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint adolygu adroddiad ar archwiliad o’r Un Llwybr Mynediad ar Dai pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf. Roedd yr archwiliad yn canolbwyntio ar y prosesau a gododd o gyflwynor Un Llwybr Mynediad, ac roedd yn argymell sawl cam gwella, a dau or rheini wedi’u nodi fel rhai a oedd yn gofyn am adolygu’r system ar frys. Mae camau wedi’u cymryd ar unwaith fel ymateb i hyn i gyflwyno’r prosesau diwygiedig ac fe nodwyd bod y tîm wedi gweithredun ddi-oed wrth roir mesurau rheoli ar waith i liniaru’r risgiau a ddaeth i’r amlwg ar ôl yr adolygiad. Dywedodd Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden: “Mae’r galw am dai cymdeithasol wedi cynyddu’n sylweddol, wrth i ni dderbyn mwy na dwbl y nifer o geisiadau yn 2016/17 ar nifer y bu ir gwasanaeth eu derbyn au rheoli yn y gorffennol. Dydi’r gallu ddim o fewn y gwasanaeth i ddal ati i reoli lefelau presennol y galw gydar adnoddau sydd gennym. Mae’r gwasanaeth yn bwriadu mynd i’r afael â hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys defnyddio mwy o systemau awtomatig ac integreiddio systemau, unor Ganolfan Gyswllt Dai ar Ganolfan Gyswllt Datrysiadau Tain un a chynnig mwyn ddigidol yn rhan o strategaeth ddigidol barhaus y Cyngor. “O ganlyniad i’r hyn sydd wedi’i weithredu, rydyn ni’n hyderus bod y mesurau rheoli priodol ar waith ym mhob maes risg a ddaeth i’r amlwg yn yr archwiliad. Mae’r gwasanaeth yn bwriadu gwahodd yr Adain Archwilio yn ôl i adolygur meysydd hyn cyn gwneud unrhyw drefniant.