Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Galw am noddwyr i gefnogi Gwobrau Busnes Sir y Fflint

Published: 16/01/2018

Cynhelir Gwobrau Busnes Sir y Fflint, sy’n hynod boblogaidd, yn Neuadd Sychdyn ar 19 Hydref 2018. Eleni, rydym yn rhoi mwy o gyfle i fusnesau yn noddwr ar gyfer Gwobr Menter Gymdeithasol. Mae’r digwyddiad pwysig hwn yn cefnogir gymuned fusnes yn y sir ac, yn gynyddol, y rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmnïau, i ddatblygu cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddi ac mae noddi’r digwyddiad yn ffordd wych o hybu eich busnes eich hun. I gofrestru datganiad o ddiddordeb i fod yn noddwr ar gyfer Gwobr Menter Gymdeithasol, cysylltwch â Kate Catherall i gael ffurflen datgan diddordeb. Bydd angen i ffurflenni datgan diddordeb wedi’u llenwi gael eu cyflwyno erbyn 16 Chwefror 2018 Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Mae ein noddwyr ar gyfer Gwobrau Busnes yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gefnogol iawn a byddwn yn annog unrhyw fusnes i ystyried derbyn y cynnig o noddi i ddangos pa werth y gallwch ddod in digwyddiad busnes enwog.” Am fanylion pellach cysylltwch â Kate Catherall – Swyddog Datblygu Busnes ar 01352 703221, neu kate.p.catherall@flintshire.gov.uk.