Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhyddhad Ardrethi Dewisol

Published: 15/02/2018

Yn dilyn derbyn sylwadau ysgrifenedig gan aelodau etholedig a chyrff elusennol, yn ystod cyfarfod diweddar o’r Cyngor Sir gofynnwyd i swyddogion lunio atebion posibl ar gyfer ailsefydlu’r Rhyddhad Ardrethi Dewisol o 20% ar gyfer sefydliadau sy’n meddiannu eiddo bach. Ar 20 Chwefror bydd gofyn i’r Cabinet ystyried atebion a chostau ar gyfer newid cynllun Rhyddhad Ardrethi Dewisol 2017-18 drwy ailgyflwyno rhyddhau dewisol ac ychwanegol o 20%, ar gyfer elusennau a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol sy’n meddiannu eiddo bach gyda gwerthoedd ardrethol o hyd at £6,000. Bydd y newidiadau, os caent eu gweithredu, yn sicrhau bod 88 o’r sefydliadau hyn sy’n meddiannu eiddo bach yn elwa ar ryddhad ardrethi o 100%, wedi ei ariannu drwy gyfuniad o Ryddhad Ardrethi Gorfodol a/neu Ddewisol. Byddai’r newidiadau arfaethedig yn sicrhau bod y sefydliadau hyn yn cael eu trin yn debycach i fusnesau ‘nid-er-elw’ sy’n gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi o 100% fel rhan o gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint: “Yn anffodus, mae’r gyfraith yn dweud nad yw eiddo sy’n cael eu meddiannu gan elusennau a chyrff cymunedol yn gymwys i dderbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach. Maer Cyngor yn cydnabod rôl bwysig elusennau, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau cymunedol o fewn ein cymunedau. Er gwaethaf y pwysau cyllidebol sydd arnom o ganlyniad i dderbyn llai o gyllid gan y llywodraeth ganolog, rydym ni’n ystyried newid fframwaith polisi Rhyddhad Ardrethi Dewisol 2017-18.”