Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfa Budd Gymunedol Parc Adfer yn cael ei lawnsio – dewch i gwrdd â’r cyllidwr!

Published: 18/10/2022

Mae’n bleser gan Bartneriaeth y Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC) (y Bartneraeth) ag enfinium i gyhoeddi bod Gronfa Budd Cymunedol Parc Adfer ar agor i geisiadau.

Fe ffurfwyd y PTGGGC gan bum Cyngor o Ogledd Cymru – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn – i rheoli gwastraff gweddilliol a gynhyrchwyd gan boblogaeth y pum awdurdod lleol. Gwastraff gweddilliol yw’r gwastraff sydd yn weddill ar ôl ailgychu a chompostio gymaint a phosib.

Mae cyfleuster Ynni o Wastraff enfinium Parc Adfer wedi’i leoli ym Mharc Diwydiannol Glannau’r Dyfrdwy a ddechreuwyd trin gwastraff yn 2019, yn dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a chreu trydan adnewyddadwy i tua 30,000 o gartrefi.

Fel rhan o’i ymrwymiad i’r gymuned lleol, mae’r Bartneriaeth ag enfinium wedi rhoi addewid i ariannu Gronfa Budd Cymunedol – gwerth £230,000 y flwyddyn – i gymunedau yn ardal Glannau Dyfrdwy. 

Hyd yn hyn mae’r gronfa wedi’i ddefnyddio i gefnogi gronfa gychwynol tymor byr, sef Gronfa Adfer Gymunedol Parc Adfer, sydd eisioes wedi cau i geisiadau. Gwobrwyodd y gronfa hono i 13 prosiect gyda gwerth o bron i £70,000 a bu yn gymorth i’r gymuned leol adfer yn sgil y bandemic Cofid-19.

Y math o fudiadau fydd yn gymwys am gymorth yw mudiadau cymunedol a gwirfoddol, mentrau cymunedol a chymdeithasol, ac elusennau lleol (nid cenedlaethol) wedi’w leoli ofewn y ardal ddiffinedig Bartneriaeth Glannau Dyfrdwy.

Bwriad gwreiddiol y gronfa oedd i rhoi gymorth i prosiectau byddai’n helpu neu o fudd i’r amgylchedd lleol. Gyda’r lawnsio’r prif gronfa, mae’r pum maen prawf prosiect budd y gronfa’n cymorthi isod:-

  1. Ynni Adnewyddadwy
  2. Lleihau Carbon 
  3. Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu Gwastraff 
  4. Bioamrywiaeth a gwelliannau i’r amgylchedd lleol
  5. Datgarboneiddio trafnidiaeth 

Mae digwyddiad “cwrdd â’r chyllidwyr” wedi ei drefnu ar gyfer Dydd Llun, 24ed Hydref yn  A Place for you, Care & Repair North East Wales, Rowley's Drive, Shotton CH5 1PY, rhwng 10am and 12:30pm, ble fydd cyfle i unrhyw grwpiau neu fudiadau sydd gyda diddordeb yn y gronfa siarad gyda’r tîm yn uniongyrchol ac i Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint (FLVC). Gellir unrhywun gyda ymholiad ynglyn â’r digwyddiad gysylltu info@flvc.org.uk neu ffonio 01352 744000.

Dywedodd Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Economi Cyngor Sir y Fflint, Cynghorydd  David Healey:

“Mae’r Gronfa Budd Cymunedol yn gronfa hir dymor gyda’r bwriad o ddarparu buddion i’r cymunedau o fewn yr ardal ddiffinedig Bartneriaeth Glannau Dyfrdwy, yn enwedig y rhai sydd yn byw yn agosach i Barc Adfer, gyda ffocws ar brosiectau byddai o fudd i’r amgylchedd lleol. Mae hwn yn gynllun buddiol iawn a fuaswn yn annog mudiadau sydd yn gymwys i geisio am y gronfa. Bydd y cynllun yn helpu barhau’r gwaith amgylcheddol bositif sydd eisioes yn cael ei wneud.” 

Dywedodd Rheolwr Safle Parc Adfer enfinium, Jacqui Ashforth, said: “Mae enfinium Parc Adfer yn falch o gefnogi’r gymuned lleol trwy’r Gronfa Budd Cymunedol Parc Adfer ac edrychwn ymlaen i barhau i wneud gwahaniaeth i fudiadau a trigolion y gymuned.

Mae’r gronfa rwan yn agored i geisiadau, ac os oes ganddoch ddiddordeb yn y gronfa cysylltwch â’r tîm ar 01352 704783 neu ebostio ParcAdferCommunityFund@flintshire.gov.uk.