Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau i wasanaethau bws DB1, DB2 a DB4

Published: 21/02/2018

O 2 Ebrill 2018 ymlaen, fe fydd yna newidiadau i wasanaethau bws DB1, DB2 a DB4. Bydd y newidiadau yma’n effeithio ar gymal Sir y Fflint o’r llwybrau ac ni fydd y bysiau yn teithio rhwng Yr Hob, Caergwrle, Llanfynydd Cymau, Treuddyn, Nercwys, Yr Wyddgrug. Bydd y gwasanaethau newydd yn cael eu gweithredu gan Stagecoach dan gontract gyda Chyngor Gorllewin Sir Caer a Chaer yn dilyn ymarfer caffael diweddar. Gofynnwyd am ymrwymiad o gyllid hir dymor ar gyfer cymal Sir y Fflint or llwybrau; fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd ariannol presennol, nid ywr Cyngor Sir mewn sefyllfa i allu ymrwymo cyllid y tu hwnt i fis Mawrth 2018. O 2 Ebrill 2018, bydd y gwasanaethau newydd yn gweithredu fel a ganlyn: - · Bydd DB1 (wedi’i ail-rifo yn 61) yn gweithredu rhwng Caer, Caer - Handbridge - Westminster Park - Dodleston - Higher Kinnerton (Bennetts Lane). · Ni fydd gwasanaeth DB2 rhwng Caer – Curzon Park – Saltney Ferry yn cael ei weithredu. Bydd rhan Handbridge yn cael ei wasanaethu gan wasanaeth 62 (amrywiad i wasanaeth 61) · Bydd gwasanaeth DB4 yn gweithredu fel y mae ar hyn o bryd rhwng Caer, Blacon, Saughall a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy (Dydd Llun i ddydd Gwener yn unig) Mae opsiynau eraill yn cael eu datblygu ar hyn o bryd mewn ymgynghoriad â Chynghorau Cymuned i ddarparu gwasanaethau cludiant eraill syn seiliedig ar y gymuned i ymateb ir ffaith bod gwasanaethau bws rheolaidd yn cael eu colli. Mae gwasanaeth bws mini cymunedol newydd hefyd yn cael ei weithredu trwy Cymau, Llanfynydd, Treuddyn a Leeswood i barc siopa Brychdyn ddwywaith yr wythnos. Ni fydd gwasanaeth bws 40 sy’n cael ei weithredu gan Townlynx Ltd o’r Wyddgrug trwy Treuddyn, Llanfynydd a Chymau i Wrecsam yn cael ei effeithio gan y newidiadau hyn a bydd yn parhau i dderbyn cymhorthdal gan Gyngor Sir y Fflint. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth bws newydd ar gael ar wefan Cyngor Gorllewin Caer a Chaer: https://www.cheshirewestandchester.gov.uk/residents/transport-and-roads/public-t ransport/bus-timetables-route-maps/bus-service-timetables/bus-service-changes/up coming-bus-service-changes-april-2018.aspx