Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru

Published: 05/03/2018

Mae gwaith Cyngor Sir y Fflint gyda phreswylwyr diamddiffyn a’r rhai sy’n profi tlodi tanwydd wedi’i gydnabod mewn digwyddiad gwobrwyo cenedlaethol. Sefydlwyd Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru i ddathlu arfer da yn y sector effeithlonrwydd ynni a chydnabod rhagoriaeth gan y sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol yn eu gwasanaeth i’w cymuned leol. Enillodd Cyngor Sir y Fflint y wobr “Corff Awdurdod Lleol y Flwyddyn” am ei raglenni effeithlonrwydd ynni domestig a chafodd Gymeradwyaeth Uchel yn y categori “Ymgyrchwr Cymorth i Gwsmeriaid Diamddiffyn y Flwyddyn” am y cymorth mae’n ei roi i aelwydydd mewn partneriaeth â Chanolfan Cyngor Ynni Gogledd Cymru. Mae’r Gwobrau hyn yn gwobrwyo un cyngor neu sefydliad eithriadol, ym mhob un o’r 11 ardal ranbarthol ar draws y DU, sydd wedi dangos ymrwymiad real i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd yn eu rhanbarth. Mae rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach hefyd wedi cael cydnabyddiaeth yn y wobr “National Energy Action and Scottish Power Heat Hero”. Roedd Joanna Seymour, rheolwr prosiect y rhaglen, yn un o ddim ond 15 o enillwyr a ddewiswyd o bob cwr o Gymru a Lloegr a fynychodd dderbyniad yn Nhy’r Cyffredin yn ddiweddar. Er iddi gael ei henwebu ar gyfer y Wobr fawreddog hon, mae Joanna am ailadrodd bod llwyddiant menter Cartrefi Iach Pobl Iach yn ymdrech tîm ac mae’r wobr yn cydnabod gwaith caled holl aelodau Tîm Effeithlonrwydd Ynni y Cyngor Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Rwyf wrth fy modd bod gwaith caled y Cyngor yn y maes hwn wedi’i gydnabod ar lefel genedlaethol. Mae’r tywydd garw diweddar yn Sir y Fflint yn pwysleisio pa mor bwysig yw’r gwaith arloesol hwn sy’n cael ei wneud gan y Cyngor a’i bartneriaid. Gallwn gynnig ymateb amlasiantaeth cyfannol i ddiwallu anghenion aelwydydd diamddiffyn. Trwy weithio gyda’n rhwydwaith o bartneriaid, byddwn yn parhau i wneud gwahaniaeth sylweddol i’r bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Caiff rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach, yn benodol, ei chydnabod am ei dull arloesol sy’n dilyn dull sy’n canolbwyntio ar unigolion i fynd i’r afael ag anghenion unigol i wella eu hiechyd a’u lles. Llongyfarchiadau i Joanna a’r tîm i gyd am eu gwaith gwych ac am gael y wobr genedlaethol fawreddog hon.” Os gallech chi fanteisio o gael help gan y tîm, neu os ydych yn ymwybodol o rywun a allai fanteisio, neu os hoffech ragor o fanylion, cysylltwch ar 01352 703425 neu healthyhomesHP@flintshire.gov.uk.