Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cydnabyddiaeth arbennig i ddanfonydd cludiant ysgol

Published: 06/03/2018

Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi cydnabod danfonydd plant ir ysgol a weithredodd y tu hwnt i ddisgwyliadau wrth helpu disgybl oedd yn ei gofal. Cododd Cheryl Woodfin, sy’n fam i ddisgybl gydag anabledd difrifol, ymwybyddiaeth am weithredoedd arwrol danfonydd ei mab. Diolch i’r gofal a’r proffesiynoldeb a ddangoswyd gan Ange Davies, mae mab Ms Woodfin yn gwella ar ôl dioddef o ffit ar ei ffordd i’r ysgol. Cysylltodd y fam â’i chynghorydd lleol, y Cynghorydd Sean Bibby, er mwyn diolch ir danfonydd am roi cymorth eithriadol i’w mab, ac roedd yn llawn canmoliaeth or danfonydd am ei rhan mewn sefyllfa eithaf gofidus ac mae’n dweud bod y gofal mae ei mab yn ei dderbyn ganddi bob diwrnod yn eithriadol. Mae gyrrwr y bws, Tony Martin, hefyd yn haeddu sylw am y gofal a’r cymorth a roddodd ar y diwrnod.