Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ymweliad y Sefydliad Cynllunio Tref Brenhinol (RTPI) â thai cyngor newydd
  		Published: 08/03/2018
Cynhelir Cynhadledd Gwanwyn y Sefydliad Cynllunio Tref Brenhinol yng Nghymrur 
wythnos hon yn Llandudno. Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar y rôl y gall 
cynllunio ei chwarae wrth ddarparu tai.  Bydd y gynhadledd yn cynnwys 
cyflwyniad gan Gyngor Sir y Fflint ar “Dai Cyngor yn Dychwelyd”.
Tra yng Ngogledd Cymru, manteisiodd John Acres, Llywydd RTPI a Tom Watson, 
Cadeirydd RTPI Cymru, ar y cyfle i ymweld â The Walks yn y Fflint, y safle 
cyntaf a gafodd ei ailddatblygu fel rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol 
Cyngor Sir y Fflint, lle mae cyfanswm o 92 o dai cyngor newydd a fforddiadwy 
wedi’u hadeiladu gan bartner y rhaglen, Wates Residential yn y Gogledd, - y tai 
cyngor cyntaf i gael eu hadeiladu yng Nghymru mewn cenhedlaeth. 
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
 “Rwy’n falch iawn bod John a Tom wedi gallu ymweld â The Walks yn Y Fflint.  
Rydym yn hynod falch o’r gwaith rydym wedi’i ddechrau a’r gwaith sy’n parhau yn 
llawer o ardaloedd eraill o fewn y Sir, bydd hyn yn codi’r cyfanswm o dai 
newydd i bron i 400 hyd yma.  Wrth i’r galw am dai cymdeithasol a thai 
fforddiadwy barhau i gynyddu, mae’n rhaid i ni gynnal momentwm ein cynlluniau 
uchelgeisiol i gwrdd â’r galw hwnnw. 
 “Mae’r safleoedd newydd hyn yng nghanol ein cymunedau a byddant yn darparu 
rhagor o eiddo o ansawdd uchel, yn helpu i gynnal y cymunedau hynny a chreu 
cyfleoedd gwaith.” 
Dywedodd Llywydd RTPI, John Acres MRTPI:
 “Mae’r cynllunwyr lleol wedi bod wrth wraidd cyflawni uchelgeisiau tai 
fforddiadwy’r Cyngor. Drwy eu defnydd rhagweithiol ac effeithiol o offer 
cynllunio - gan gynnwys dull adnabod safle ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r 
gymuned - maent wedi sicrhau bod y cartrefi newydd wediu cwblhau yn brydlon a 
gyda chefnogaeth y gymuned.” 
Mae RTPI Cymru yn cynrychioli’r RTPI yng Nghymru, gyda 1,100 o aelodau mae’n 
gweithio i ddarparu gwasanaethau perthnasol i’r system gynllunio yng Nghymru, 
mae hefyd yn gweithio gydar Llywodraeth a rhanddeiliaid i sicrhau ymagwedd 
gadarnhaol at gynllunio yng Nghymru. 
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential yn y Gogledd, Richard Shroll: 
 
 “Rwy’n gobeithio bod ymweliad John a Tom â The Walks wedi rhoi esiampl 
gadarnhaol iddynt o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fo cyngor a chontractwr yn 
cydweithion agos ar raglen adeiladu tai uchelgeisiol. Mae ein partneriaeth, a 
fydd hefyd yn cynnwys ein gwaith fel datblygwr ar brosiect Maes Gwern yn y 
dyfodol agos, eisoes wedi gadael etifeddiaeth barhaol ar gyfer y gymuned leol, 
drwy wella’r stoc o dai a rhoi hwb anferthol i’r economi ranbarthol, gan 
gynnwys creu llu o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth. Cyn y gynhadledd, ein 
nod yw bod y cydweithrediad rhwng y Cyngor Sir a Wates yn enghraifft gadarnhaol 
i sefydliadau eraill ledled Cymru ar DU.”