Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eglurhad o’r ffioedd parcio

Published: 09/03/2018

Ar 15 Mawrth bydd gofyn i Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd ac Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r ffioedd parcio diwygiedig yn ogystal ag argymell dyddiad cychwyn ar gyfer y ffioedd newydd sydd i’w cyflwyno yn y Fflint. Nid yw ffioedd parcio ceir wedi’u hadolygu ers eu cyflwyno ym mis Ebrill 2015 ac nid yw’r incwm a gynhyrchir yn cwrdd â chost lawn rheoli a gweithredu’r meysydd parcio. Hyd yn oed os cymeradwyir y ffioedd newydd hyn, bydd cost parcio yn Sir y Fflint yn dal yn isel o’i chymharu â siroedd cyfagos. Er enghraifft, mae parcio am dair awr yn Ninbych yn costio £1.50 a pharcio drwy’r dydd yn Rhuthun a Llangollen yn costio £7. Ar y llaw arall, yn y rhan fwyaf o feysydd parcio canol tref Sir y Fflint, £1.50 ywr gost am barcio drwyr dydd. Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Carolyn Thomas: “Rydym yn byw mewn cyfnod anodd ac mae codi ffioedd meysydd parcio yn mynd i fod yn fater cynhennus. Mae pob Cyngor mewn sefyllfa debyg ac o ystyried ymchwil cymharol, mae cost parcio ym meysydd parcio Sir y Fflint yn rhatach na threfi a dinasoedd eraill. Yr hyn sydd arnom ni eisiau ei wneud yw adennill cost cynnal a chadw’r meysydd parcio yma, ni fyddwn yn gwneud unrhyw elw.” Mae ymchwil i feysydd parcio’r sir yn dangos nad yw’r ffioedd wedi effeithio ar eu defnydd, yn wir, mae cynnydd wedi bod yn y defnydd mewn chwe thref yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Cei Connah yw’r eithriad, lle ceir llawer o fannau parcio oddi ar y stryd. Mae’r ffioedd ychydig yn uwch yn yr Wyddgrug oherwydd bod y dref yn denu llawer o ymwelwyr. I adlewyrchu hyn, bydd canran or cynnydd arfaethedig yn cael ei fuddsoddi, drwy weithio gyda Chyngor Tref yr Wyddgrug, i wella seilwaith ymwelwyr. Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: “Cyfanswm cost rheoli a chynnal a chadw meysydd parcio yw £886,000 y flwyddyn, a byddai’r ffioedd arfaethedig yn adennill y gost hon. Byddai hyn yn arwain at wasanaeth parcio niwtral o ran cost ac sy’n darparu incwm ar gyfer cynnal a chadw meysydd parcio ac i helpu i reoli’r ddarpariaeth a’r mannau parcio ar gyfer ymwelwyr i ganol trefi.” Mae’r cynigion a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Craffu ym mis Ionawr wedi’u cynnwys yn y cynllun codi tâl newydd hwn, gan gynnwys codi llai am barcio am 30 munud er mwyn caniatáu ymweliadau byr, sy’n debyg i ffioedd trefi tebyg yn Ninbych. Mae costau parcio am gyfnodau hirach mewn meysydd parcio yng Nghaer, Sir Ddinbych a Wrecsam yn llawer uwch na’r rheiny a gynigir ar gyfer Sir y Fflint. Bydd rhai meysydd parcio yn Nhreffynnon yn caniatáu sawl ymweliad yn defnyddio’r un tocyn parcio ac nid oes unrhyw fwriad i godi ffioedd parcio presennol Talacre gan eu bod eisoes yn uwch na ffioedd mannau eraill yn y sir oherwydd y lleoliad a nifer y mannau parcio. Os cytunir ar hyn, bydd y trefniadau codi tâl newydd yn cael eu hysbysebu ym mhob maes parcio, gan gynnwys y Fflint, yn ystod mis Ebrill 2018 ac yn dod i rym ar 14 Mai 2018.