Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnydd y Rhaglen Dai

Published: 09/03/2018

Yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 14 Mawrth, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter yn derbyn diweddariad ar gyfnodau allweddol nesaf rhaglen pum mlynedd uchelgeisiol y Cyngor, sef Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP). Bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar gynigion i ddatblygu 92 o dai cymdeithasol a fforddiadwy yn Llys Dewi, Penyffordd (23 cymdeithasol / 4 fforddiadwy), Nant y Gro, Gronant (37 cymdeithasol / 4 fforddiadwy) a hen ddepo’r Cyngor, Dobshill, ger Bwcle (15 cymdeithasol/ 9 fforddiadwy). Mae’r cynigion diweddaraf yn adeiladu ar gynnydd a llwyddiant sylweddol SHARP ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2015, gyda phenodiad Wates Living Space fel partner datblygur Cyngor. Fel rhan o’r cynllun cyntaf, cwblhawyd 12 o dai cyngor newydd y llynedd yn Llys Custom House yng Nghei Connah. Mae gwaith adeiladu 92 o dai newydd yn The Walks, Y Fflint (30 o dai cyngor / 62 fforddiadwy) ar fin dod i ben, tra bo gwaith adeiladu 40 o dai cyngor newydd ar 5 safle yng Nghei Connah, Yr Wyddgrug a Choed-Llai yn mynd rhagddo’n dda gydag eiddo yn Redhall, Cei Connah a Heol y Goron, Coed-Llai eisoes wedi’u cwblhau a’u gosod. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar safle’r hen Laethdy, Ffordd Yr Wyddgrug, Cei Connah ym mis Tachwedd 2017, a disgwylir ir gwaith i ailddatblygu hen Ganolfan Melrosem, Shotton ddechrau ym mis Mawrth 2018. Bydd y cynlluniau hyn yn darparu 15 o dai newydd yn ddiweddarach eleni. Mae safleoedd datblygu posibl hefyd wedi’u nodi yn Maes Gwern, Yr Wyddgrug, (cais cynllunio wedi’i gymeradwyo), Borough Grove, Y Fflint, hen Ddepo Canton, Bagillt, Llys Alun, Rhydymwyn a thir ar Rhodfa Sealand, Garden City. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae dros 200 o dai cyngor, cymdeithasol a fforddiadwy wedi’u cwblhau, wrthi’n cael eu hadeiladu neu wedi’u cytuno mewn egwyddor ers dechrau ar raglen dai uchelgeisiol y cyngor. Mae’r datblygiadau hyn wrth wraidd ein cymunedau trefol a gwledig lleol a byddant yn cyfrannu at gynaliadwyedd y cymunedau hyn ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth. “Rwy’n hyderus y byddwn yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiant hyd yma a bydd y cyngor hwn yn gwireddu ei weledigaeth a’i uchelgais i ddarparu 500 o dai cymdeithasol a fforddiadwy erbyn 2020.” Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai: “Mae ymrwymiad a phenderfyniad y Cyngor hwn i ddarparu tai cymdeithasol a fforddiadwy sydd wir eu hangen ar draws Sir y Fflint wedi’u hatgyfnerthu gan y cynnydd gwych a wnaed hyd yma. Yn unol â chynlluniau blaenorol, bydd polisïau gosodiadau lleol yn cael eu datblygu gan y Cyngor ar gyfer pob un o’r cynlluniau arfaethedig a byddwn yn sicrhau bod y ddaliadaeth a’r gymysgedd o eiddo ar gyfer y cynlluniau yn adlewyrchu’r angen o ran tai o fewn pob cymuned.”