Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Mae Sir y Fflint yn le i’w alw’n gartref
  		Published: 16/03/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint groesawu adolygiad positif o gartrefi 
gofal yn y Sir pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Yn 2017, cynhaliodd Comisiynydd Pobl Hyn Cymru adolygiad dilynol o’i hadolygiad 
“Lle i’w Alw’n Gartref?” yn 2014, yr adolygiad mwyaf erioed i gael ei gynnal i 
ansawdd bywyd a gofal am bobl hyn mewn cartrefi gofal yng Nghymru.  
Cafodd pob un o 22 awdurdod lleol Cymru, 7 Bwrdd Iechyd Lleol, Llywodraeth 
Cymru a AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) eu hadolygu a’u dadansoddi yn erbyn eu 
‘Gofynion ar gyfer Gweithredu’ mewn 15 maes penodol fel yr amlinellir yn 
adolygiad 2014.
Mae Sir y Fflint yn un o bedwar awdurdod lleol, a’r unig awdurdod yng Ngogledd 
Cymru, i gael y sgôr uchaf ym mhob un o’r 15 maes.  Mae’r adroddiad hefyd yn 
nodi Sir y Fflint fel enghraifft o arfer arloesol ac arfer orau ar bum achlysur.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Sir y Fflint:
 “Mae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn un y dylem fod yn falch iawn ohono.  
Oherwydd gwaith caled ac ymroddiad ein gweithlu bendigedig, gall pobl hyn Sir y 
Fflint fod yn sicr y byddant yn cael y gofal gorau posibl ar adeg pan allent 
fod yn teimlo’n ddiamddiffyn ac yn ansicr am eu dyfodol.
 “Fel y mae’r adolygiad yn nodi – mae darparu gofal mewn lleoliad cartref gofal 
yn ymwneud â mwy na bod yn ddiogel a chwrdd ag anghenion corfforol sylfaenol, 
mae hefyd yn ymwneud ag ansawdd bywyd.”
Gwnaeth y Comisiynydd nodi y gallai Sir y Fflint wneud mwy o waith i wella 
tystiolaeth o ganlyniadau ac y dylid darparu data mwy ystyrlon a mesuradwy i 
ddangos ein gwelliannau ymhellach. Rydym wedi symud ymlaen â hyn fel cam 
gweithredu.