Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Published: 15/07/2014
Bydd manylion prosiectau a gwblhawyd sy’n cadw hawliau tramwy’r sir mewn cyflwr
da yn cael eu cyflwyno i gynghorwyr mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth (15
Gorffennaf).
Maer gwaith yn rhan or trydydd adroddiad blynyddol i dynnu sylw at dîm
Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Sir y Fflint syn gyfrifol am gynnal a chadwr
rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus syn cynnwys llwybrau troed, llwybrau
beiciau a llwybrau ceffylau.
Maer adroddiad yn cynnwys prosiectau syn dangos cynnydd y Cynllun Gwella
Hawliau Tramwy syn parhau i dderbyn cefnogaeth cymorth grant gan Gyfoeth
Naturiol Cymru.
Mae cynlluniau gorffenedig yn cynnwys llwybr beicio Burton Point, sydd wedi bod
yn llwyddiant ysgubol gan ddenu miloedd o feicwyr; Llwybr yr Arfordir yn y
Parlwr Du, Talacre a gafodd ei drwsio oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch ar
ôl i law trwm erydu’r llwybr; pont bren 6m a godwyd yn Nercwys yn ller un a
oedd wedi dadfeilio a llwybr bordiau 35m a giât newydd wedi’u gosod yng Nghoed
Talon Marsh lle mae llwybr troed lleol a ddefnyddir yn aml wedi mynd yn
anniogel oherwydd bod yr ardal yn wlyb ac yn gorsiog.
Mae atgyweirio Llwybr Arfordir Cymru Gyfan hefyd wedi cyrraedd brig yr agenda
oherwydd y stormydd gaeaf dinistriol ac mae arolygwyr hefyd yn hyrwyddo
Prosiect Cysylltu Cymunedau Sir y Fflint syn gwella, datblygu a hyrwyddo
cyfres o lwybrau troed, llwybrau beiciau a llwybrau ceffylau yn Sir y Fflint
wledig gan ddefnyddio cyllid grant.
Maer tîm hawliau tramwy hefyd yn gyfrifol am gynnal y rhwydweithiau o ddydd i
ddydd, gan gynnwys arwyddion, cynnal a chadw, ac asesu gwaith atgyweirio. Maent
yn gweithio gyda system feddalwedd syn caniatáu i hawliau tramwy gael eu mapio
allan gan gynnwys yr holl giatiau a chamfeydd a gall trigolion roi gwybod am
broblemau drwyr system hon.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Cabinet, Aelod Cabinet yr Amgylchedd:
“Mae’r gwasanaeth Hawliau Tramwy yn gwneud gwaith gwerthfawr i gynnal a chadw
rhwydwaith y Sir o lwybrau troed a llwybrau beicio i drigolion ac ymwelwyr
fwynhau cefn gwlad hardd Sir y Fflint. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod
ein llwybrau yn aros ar agor ar gyfer gweithgareddau hamdden yn ogystal â bod
yn rhan bwysig o gadwraeth yn yr ardal.”