Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun coed a choetiroedd trefol

Published: 16/03/2018

Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gytuno ar Gynllun Coed a Choetiroedd Trefol pan fydd yn cyfarfod nesaf ar 20 Mawrth. Un o bum blaenoriaeth allweddol y Cyngor yw bod yn Gyngor Gwyrdd, gwella’r amgylchedd naturiol a hyrwyddo mynediad i fannau gwyrdd. Mae’r cynllun hefyd yn cyd-fynd yn dda â Deddf Llesiant Cenedlaethaur Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru sy’n gosod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol am gynnal a gwella bioamrywiaeth a gwydnwch ecolegol. Dywedodd Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae’r bendithion amgylcheddol y mae coed a choetiroedd trefol yn eu cynnig yn niferus ac yn amrywiol. Maent yn amsugno llygryddion yn yr aer ac yn darparu ocsigen mwy ffres, maent yn rhoi cysgod a chynefin ac maent yn cael effaith gadarnhaol ar ein iechyd meddyliol a chorfforol. “Mae plannu a rheolaeth gynaliadwy o goed trefol yn amlwg yn cyflawni ein dyletswyddau statudol, ond yn bwysicach na hynny ein dyheadau i wella ein hamgylchedd naturiol ac mae’r cynllun yn cynnig dull o reoli coed a choetiroedd mewn ffordd fwy cynaliadwy.” Bydd y cynllun yn para 15 mlynedd sef yr un cyfnod a ddefnyddiwyd ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu. Er ei fod yn gyfnod byr o ran oes coeden, mae’n ddigon hir i goed wedi eu plannu sefydlu eu hunain ac i’w cyfraniad i’r tirlun trefol gael ei gydnabod.