Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dechrau da a newid gwedd NEWydd

Published: 21/03/2018

Roedd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn falch o nodi adroddiad a oedd yn manylu ar lwyddiant Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig wrth i’r cwmni ddod i ddiwedd ei flwyddyn gyntaf o fasnachu. Mae hen wasanaeth arlwyo a glanhaur Cyngor, a drosglwyddwyd i Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol y llynedd, yn mynd o nerth i nerth. Bu i’r Aelodau hefyd gymeradwyo Cynllun Busnes NEWydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19. Dywedodd Steve Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr NEWydd a gyflwynodd yr adroddiad i’r Cabinet: “Roedd ein blwyddyn gyntaf o fasnachu yn ymwneud â chadw’r busnes a oedd gennym ni. Rhan fawr o hyn oedd ceisio cadw’r ysgolion a oedd eisoes yn derbyn y gwasanaeth prydau ysgol, ac maen falch gen i adrodd bod yr holl ysgolion wedi parhau i ddefnyddio ein gwasanaethau. Gallaf hefyd adrodd bod un ysgol, nad oedd wedi derbyn prydau ysgol gan ddarparwr mewnol ers sawl blwyddyn, wedi llofnodi contract gyda ni ym mis Rhagfyr. Rydym hefyd wedi cyflwyno tendr llwyddiannus ar gyfer y Caffi Cymunedol yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon, a bu i ni ddechrau masnachu yno fis Gorffennaf y llynedd. “Rydym hefyd wedi cynyddu nifer y dysgwyr sy’n derbyn prydau ysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Erbyn hyn mae 53% o ddisgyblion cynradd (43% cynt) a 51% o ddisgyblion uwchradd (41% cynt) yn derbyn prydau ysgol. “Mae NEWydd wedi gwneud cynnydd da yn ei flwyddyn gyntaf, gan gadw gwasanaethau a swyddi a chreu llinellau busnes newydd ac, wrth wneud hynny, datblygu cyfleoedd gwaith newydd. Rydym wedi arbed £637,000 rhwng 2014/15 a 2016/17, gan gadw a gwella gwasanaethau.” Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae’n rhaid canmol y cwmni am gadw a chynyddu nifer y dysgwyr sy’n derbyn prydau ysgol. Mae arnom eisiau i rieni a gwarcheidwaid fod â hyder yn yr hyn y mae plant yn ei fwyta yn yr ysgol, ac mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fanteision deiet cytbwys i wella ymddygiad a gallu dysgu plant yn ystod y diwrnod ysgol. Fel gydag unrhyw fenter newydd, mae’r newid diwylliannol yn y gweithlu yn gallu bod yn heriol ond mae’r Rheolwr Tîm newydd a benodwyd y llynedd i’w weld yn cael effaith gadarnhaol ar y gweithlu a’r cwmni, sydd bellach yn meddwl ac yn gweithredu yn fwy masnachol mewn amgylchedd masnachu cystadleuol. Mae gwisgoedd newydd a phrif swyddfa newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy hefyd wedi helpu i oresgyn y newid diwylliannol. Dylinwyd a dewiswyd y gwisgoedd gan staff y rheng flaen, a byddant yn cael eu lansio ar ôl gwyliau’r Pasg.